Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn darparu ar gyfer system o lefelau rhybudd yng Nghymru, fel y nodir yng Nghynllun Rheoli Coronafeirws diweddaraf Llywodraeth Cymru. Mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol inni adolygu'r cyfyngiadau bob tair wythnos. 

Cwblhawyd yr adolygiad diweddaraf ar 18 Chwefror a daeth i'r casgliad y dylai Cymru gyfan aros ar Lefel Rhybudd 4. Golyga hyn fod rhaid i bawb aros gartref a gweithio gartref lle bynnag y bo modd. Rhaid i bob lleoliad manwerthu nad yw'n hanfodol, pob lleoliad lletygarwch, safleoedd trwyddedig a chyfleusterau hamdden aros ar gau.

Ers yr adolygiad diwethaf, mae achosion coronafeirws yn parhau i ostwng ym mhob rhan o Gymru ac mae’r pwysau ar y GIG yn lleihau. Mae nifer y bobl sy'n profi'n bositif yn uchel o hyd ac mae gormod o bobl yn dal i fod yn ddifrifol sâl ac yn yr ysbyty. Gallwn i gyd fod yn falch o gynnydd rhagorol y rhaglen frechu yng Nghymru, ond mae cryn dipyn o waith i'w wneud eto. Rhaid inni beidio â gadael i'r feirws ailsefydlu ei hun drwy symud i lefel rhybudd is yn rhy fuan. 

Ers inni gyhoeddi Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: lefelau rhybudd yng Nghymru, mae amrywiolynnau newydd wedi dod i’r amlwg, a allai olygu bod mwy o risg o salwch difrifol, cyfradd heintio uwch neu leihad posibl yn effeithiolrwydd y brechlynnau presennol. Golyga hyn fod angen inni fod yn ofalus wrth lacio’r cyfyngiadau symud a heddiw rwy’n cyhoeddi diweddariad pellach i Gynllun Rheoli’r Coronafeirws[1] i nodi sut ydym yn ymateb i’r heriau newydd hyn.

Yn ystod yr adolygiad diwethaf o’r cyfyngiadau, pwysleisiais mai addysg oedd ein prif flaenoriaeth o hyd. Nodais y byddem am weld disgyblion y cyfnod sylfaen a dysgwyr sydd yn y grŵp blaenoriaeth ar gyfer sefyll arholiadau  am gymwysterau galwedigaethol yn dychwelyd fesul cam ac mewn modd hyblyg o 22 Chwefror ymlaen pe bai’r sefyllfa yn parhau i wella. Byddwn yn cyflwyno newidiadau i’r rheoliadau i weithredu hyn.

Os byddwn yn parhau i weld gwelliannau, fy mwriad fydd i weddill y dysgwyr cynradd, yn ogystal â dysgwyr ym Mlynyddoedd 11 a 13 mewn ysgolion uwchradd a'r rhai sy'n sefyll cymwysterau cyfatebol mewn colegau, ddychwelyd o 15 Mawrth mewn ffordd hyblyg i alluogi rhywfaint o hyblygrwydd o ran dysgwyr eraill. Fy mwriad fydd galluogi hyblygrwydd hefyd o ran dysgwyr eraill fel Blwyddyn 12 a'r rhai ym Mlwyddyn 10 sydd o bosibl hefyd wedi’u cofrestru ar gyfer cymwysterau yr haf hwn

Byddwn hefyd yn cyflwyno diwygiadau i’r rheoliadau i ganiatáu i uchafswm o bedwar person o ddwy aelwyd wahanol wneud ymarfer corff gyda’i gilydd, er dylent gymryd pob gofal i gadw pellter. Rhaid i bobl ddechrau a gorffen yr ymarfer corff yn eu cartrefi oni bai bod angen i berson deithio oherwydd rhesymau’n ymwneud ag anabledd neu iechyd. Golyga hyn, am y tro, os yw pobl yn cwrdd, bod rhaid iddynt fod yn byw yn agos i’w gilydd gan na chaniateir teithio yn gyffredinol at ddibenion ymarfer corf.

Yn olaf, bydd y dynodiad chwaraeon elît yn y rheoliadau yn cael ei ddiwygio i gydnabod pobl sy’n ennill bywoliaeth o chwaraeon a dynodiadau a wneir gan gyrff chwaraeon mewn rhannau eraill o’r DU.

[1] Mae’r diweddariad i’r Cynllun Rheoli Coronafeirws ar gael yma: https://llyw.cymru/cynllun-rheolir-coronafeirws-lefelau-rhybudd-yng-nghymru-llacior-cyfyngiadaun-raddol