Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r sefyllfa yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan, a Libanus, yn parhau i fod yn beryglus ac ansicr, ac mae angen inni baratoi ar gyfer y senario go iawn y gallai fod angen i bobl ddianc neu adael y tiriogaethau hyn yr effeithir arnynt.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi gwneud newidiadau i'r ffordd y mae'n cymhwyso'r prawf preswylio arferol ar gyfer y rhai sy'n cael eu hachub i'r DU. Bydd y prawf preswylio arferol, sy'n atal rhywun sydd â hawl i ddod i mewn i'r DU rhag hawlio budd-daliadau yn syth ar ôl iddynt gyrraedd, ac sy'n gallu cymryd hyd at dri mis i'w gwblhau, yn cael ei ddatgymhwyso ar gyfer y rhai sydd wedi dianc rhag y gwrthdaro o’r tiriogaethau yr effeithir arnynt. Bydd datgymhwyso'r prawf preswylio arferol yn rhoi mynediad uniongyrchol i fudd-daliadau i'r rhai sy'n cyrraedd y DU, gan gynnwys cymorth tai a digartrefedd.

Mae angen i ni alinio cyfraith tai yng Nghymru â newid dull Llywodraeth y DU, fel y gall pobl sy'n dod i Gymru o'r tiriogaethau yr effeithir arnynt fod yn gymwys i wneud cais am dai cymdeithasol a chymorth digartrefedd.  Felly, rwy'n bwriadu gosod Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 ("y Rheoliadau drafft").  Bydd hyn yn galluogi Dinasyddion Prydain, eraill nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo (neu a gaiff eu trin felly), ac unrhyw un sydd ag absenoldeb mewnfudo a hawl am arian cyhoeddus sy'n cael eu hachub o'r gwrthdaro i fod yn gymwys i gael tai cymdeithasol a chymorth tai lle mae ei angen arnynt.

Er nad ydym yn disgwyl y bydd nifer sylweddol o bobl yn cyrraedd Cymru ac angen cymorth o'r fath, mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer y rhai sy'n gwneud hynny.  Felly, mae angen i ni wneud y newidiadau hyn i ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl.  O ganlyniad, gosodwyd y Rheoliadau drafft heddiw i'w hystyried gan y Senedd ar 14 Tachwedd.

Oherwydd brys y sefyllfa ac er mwyn sicrhau bod ein rhanddeiliaid yn cael eu paratoi, ynghyd â sicrwydd i'r rhai sy'n cyrraedd o’r tiriogaethau yr effeithir arnynt, rwyf wedi penderfynu cyflymu'r broses hon.  Ysgrifennais at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i ofyn am eu cymorth i ystyried y Rheoliadau ar frys ar 30 Hydref, er mwyn i Aelodau'r Senedd weld adroddiad y Pwyllgor cyn y ddadl ar 14 Tachwedd 2023.

Mae hon yn sefyllfa enbyd a phryderus, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor ac Aelodau'r Senedd am eu cefnogaeth ar y mater brys hwn.