Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn y gwrthdaro diweddar rhwng Israel ac Iran ym mis Mehefin, mae Llywodraeth y DU wedi trefnu ymadawiadau â chymorth i ddinasyddion Prydain sy'n byw yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem adael trwy hediadau siartredig. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu datgymhwyso'r Prawf Preswylio Arferol (HRT) i'r rhai sy'n cyrraedd y DU o ardaloedd yr effeithir arnynt am chwe mis, o 17 Gorffennaf. Mae’r eithriad hwn yn caniatáu iddynt gael budd-daliadau lles a chymorth tai yn syth ar ôl cyrraedd.

Fodd bynnag, nid yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwysedd) (Cymru) 2014 ("Rheoliadau 2014") yn adlewyrchu'r eithriad dros dro hwn. Nod y diwygiad rydyn ni'n ei gynnig yw gwneud y rheolau cymhwysedd tai yn gyson â'r darpariaethau lles, gan sicrhau bod cymorth cyfatebol ar gael i'r rheini yr effeithir arnynt. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn darparu cymorth i'r bobl sy'n ffoi rhag trais a gwrthdaro, a rhoi cyfle iddynt geisio tai neu gymorth digartrefedd yng Nghymru heb oedi diangen.

Felly, heddiw, rwyf wedi gosod Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwysedd) (Cymru) (Diwygio) 2025 ("y Rheoliadau drafft") drafft fel bod Rheoliadau 2014 yn cael eu diwygio i gyflawni'r nod hwn.

Mae angen i ni wneud y newidiadau hyn i ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl, i baratoi ar gyfer y rhai sydd wedi dychwelyd i'r DU. 

Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, rwyf wedi gwneud y penderfyniad i gyflymu'r broses hon ac ar 11 Gorffennaf ysgrifennais at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i roi gwybod iddynt o'm bwriad i geisio atal Rheolau Sefydlog y Senedd er mwyn i ddadl gael ei chynnal ar 15 Gorffennaf. 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor ac Aelodau'r Senedd am eu cefnogaeth ar y mater brys hwn.