Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 17 Mawrth 2026, rwyf wedi gosod Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) drafft 2026

Mae’r sefyllfa yn y Dwyrain Canol yn parhau i esblygu’n gyflym ac mae’n parhau i fod yn anrhagweladwy. Mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i Wladolion Prydeinig mewn nifer o wledydd gofrestru eu presenoldeb, a gall gyhoeddi cyngor “gadael ar unwaith” os bydd y sefyllfa’n dirywio ymhellach. Er nad yw cyngor o’r fath wedi’i gyhoeddi hyd yma, mae’n bwysig bod Cymru’n barod i ymateb yn gyflym pe bai’r amgylchiadau’n newid.

Mae gan Lywodraeth y DU fframwaith argyfwng cyffredinol sefydlog, sy’n eithrio’r prawf preswylfa fel arfer mewn amgylchiadau penodol pan gaiff cyngor “gadael ar unwaith” neu drefniadau gwacáu eu gweithredu. Mae hyn yn sicrhau y gall y rhai sy’n dychwelyd i’r DU o ganlyniad i argyfwng gael mynediad at gymorth heb oedi.

Er mwyn sicrhau bod pobl sy'n cyrraedd Cymru yn gallu cael mynediad at lety tai a chymorth ar yr un sail ag yng ngweddill y DU, rwy'n bwriadu diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 yn awr, cyn i unrhyw gyngor gael ei gyhoeddi. Mae hwn yn fesur rhagofalus a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i ymateb yn gyson ac i ddarparu eglurder ar adeg pan allai’r amgylchiadau newid yn gyflym.

O ystyried y brys a'r ansicrwydd presennol, rwyf wedi penderfynu cyflymu gweithdrefn y Senedd. Mae hyn yn arwain at fyrhau’r amserlen graffu arferol, ac er fy mod yn edifar am hyn, ystyriaf ei fod yn angenrheidiol i sicrhau bod Cymru’n barod pe bai Llywodraeth y DU yn gweithredu ei threfniadau argyfwng. Er mwyn hwyluso craffu gan Aelodau’r Senedd yn y dyfodol pan fydd y sefyllfa’n fwy eglur, mae’r Rheoliadau drafft yn cynnwys darpariaeth gyfyngedig o ran amser (cymal machlud), o flwyddyn. Bydd hyn yn galluogi craffu ar unrhyw Bydd hyn yn galluogi craffu gan y Senedd yn y dyfodol ar unrhyw Reoliadau ehangach a pharhaol, a fyddai’n cael eu datblygu mewn ymgynghoriad â’r sector cyn dod i rym.

Cynhelir y ddadl ar 24 Mawrth 2026 ac yn amodol ar ewyllys y Senedd, bydd y Rheoliadau yn dod i rym ar 30 Mawrth 2026. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder, a’r Cyfansoddiad am ystyried y Rheoliadau hyn drwy weithdrefn gyflymach.