Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau o'r Senedd yn dymuno gwybod bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth er mwyn gwneud rheoliadau sy'n cynnwys darpariaethau mewn maes datganoledig o ran Cymru.

Mae Will Quince AS, y Gweinidog Gwladol dros Iechyd a Gofal Eilaidd, yn bwriadu gwneud Offeryn Statudol (OS) sy'n gymwys i'r DU gyfan o'r enw Rheoliadau Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) (Ymadael â’r UE) 2023 (“y Rheoliadau HIA”).

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud yr OS a nodwyd uchod drwy arfer y pwerau a roddir gan Ddeddf Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) 2019 (“y Ddeddf”) (a fu'n dwyn y teitl Deddf Gofal Iechyd (Trefniadau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir) 2019 gynt, ond a gaiff ei hailenwi gan adran 162 o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022, ar ôl iddi gael ei chychwyn).

Mae'r OS yn gwneud darpariaeth i roi effaith i Gytundebau Gofal Iechyd Rhyngwladol rhwng Llywodraeth y DU a Gwledydd Gweddill y Byd, yn ogystal ag ymrwymiadau eraill sy'n ymwneud â darparu gofal iechyd o'r fath, ac at ddibenion cysylltiedig. Mae rhai agweddau o'r Rheoliadau HIA mewn maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli.

Cafodd y Rheoliadau eu gosod gerbron Senedd y DU ar 5 Mehefin 2023 a byddant yn dod i rym yn syth ar ôl i adran 162 o Ddeddf 2022 ddod i rym. Mae swyddogion Llywodraeth y DU wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru fod hyn yn debygol o ddigwydd yn yr haf.  

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

Dim.

Bydd Aelodau o'r Senedd yn dymuno nodi nad yw'r Rheoliadau yn trosglwyddo unrhyw swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol.

Diben y rheoliadau

Fel y nodwyd, gwneir y Rheoliadau HIA drwy arfer y pwerau a roddir i'r Ysgrifennydd Gwladol gan y Ddeddf.Bydd y prif bŵer galluogi i'w weld yn adran 2 o'r Ddeddf. O dan adran 2A o'r Ddeddf caiff Gweinidogion Cymru hefyd,  drwy reoliadau, wneud darpariaethau penodol sy'n gyfwerth â'r rheini y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol eu gwneud drwy ddefnyddio adran 2, er ni chânt wneud yr holl ddarpariaethau, a dim ond pan fo darpariaeth ym maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli y cânt ei gwneud.

Bydd y Rheoliadau HIA yn disodli fframwaith cyfreithiol y DU ar gyfer gweithredu'r trefniadau gofal iechyd y darperir ar eu cyfer mewn rheoliadau presennol, sef Rheoliadau Gofal Iechyd (Trefniadau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir) (Ymadael â’r UE) 2019 (“y Rheoliadau HEEASA”), sydd wedi eu gwnaed mewn perthynas â darparu gofal iechyd cilyddol yng ngwladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, gan gynnwys mewn perthynas â gwneud taliadau. Mae'r Rheoliadau HEEASA hefyd yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru i roi effaith i drefniadau gofal iechyd cilyddol â'r Undeb Ewropeaidd, Gwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir.

Mae’r Rheoliadau HIA yn debyg i’r Rheoliadau HEEASA i raddau helaeth, ond maent yn ehangu cwmpas y fframwaith cyfreithiol i gynnwys cytundebau gofal iechyd rhwng Llywodraeth y DU a gwledydd Gweddill y Byd. Mae'r Rheoliadau HIA yn gwneud y canlynol:

  • galluogi i daliadau gael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar sail y DU gyfan yn unol â chytundeb gofal iechyd cilyddol;
  • galluogi i daliadau gael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar sail y DU gyfan o dan amgylchiadau eithriadol;
  • gosod gofyniad ar Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG er mwyn rhoi effaith i rwymedigaethau ac ymrwymiadau'r DU o dan gytundebau gofal iechyd perthnasol, gan gynnwys prosesu swyddogaethau triniaeth famolaeth wedi'i chynllunio;
  • gosod swyddogaethau gwybodaeth a chyngor ar Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG;
  • rhestru gwledydd Gweddill y Byd sy'n rhan o gytundebau gofal iechyd rhyngwladol â'r DU;
  • gosod swyddogaethau triniaeth wedi'i chynllunio S2 ar Fyrddau Iechyd Lleol Cymru, NHS England a Byrddau Iechyd yr Alban (h.y. i wneud penderfyniadau clinigol ynghylch ceisiadau ac i bennu a chyhoeddi gweithdrefnau ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau S2, sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer proses adolygu).

Gellid gwneud rhai agweddau ar y Rheoliadau HIA, yn eu cyfanrwydd neu'n rhannol, gan ddarpariaethau mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 2A o'r Ddeddf.

Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi manylion y darpariaethau, a diben ac effaith y diwygiadau, ar gael yma:

Rheoliadau Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) (Ymadael â’r UE) 2023 (legislation.gov.uk)

Y rhesymau pam y mae cytundeb wedi'i roi

Rwyf wedi cytuno y dylai Llywodraeth y DU wneud darpariaethau yn y Rheoliadau HIA o ran Cymru ym maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli am resymau ymarferoldeb, effeithlonrwydd ac eglurder cyfreithiol.

Yn gyntaf, mae'r OS wedi cael ei ystyried yn llawn, ac mae ein safbwynt polisi yn hyn o beth yr un peth â safbwynt Llywodraeth y DU ar hyn o bryd. Nid wyf yn rhagweld y bydd y sefyllfa hon yn newid, felly mae darpariaethau’r Rheoliadau HIA yn gydnaws â'n polisi ni. Pe bai ein polisïau yn y maes hwn yn gwahanu oddi wrth ei gilydd yn y dyfodol, mae'r pŵer gennym o dan adran 2A o Ddeddf Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) 2019 i wneud ein rheoliadau ein hunain er mwyn gweithredu newidiadau penodol yng Nghymru, ar yr amod bod y newidiadau hynny o fewn cymhwysedd datganoledig, y mae ei gwmpas wedi ei ragnodi gan adran 2A(2) a (4)(b) o'r Ddeddf. Felly, ni fyddai’n niweidiol i bolisïau presennol Cymru na pholisïau'r dyfodol yn y maes hwn pe bai Llywodraeth y DU yn gwneud y ddarpariaeth hon i Gymru.

Yn ail, mae'r ffordd hon o weithio hefyd yn arwain at lyfr statud sy'n gydlynol ac yn gyson, ac yn sicrhau bod y rheoliadau ar gael mewn un offeryn

Yn drydydd, bob tro y mae Llywodraeth y DU yn ymrwymo i gytundeb gofal iechyd newydd â gwlad neu diriogaeth, bydd angen diwygio’r Rheoliadau HIA er mwyn ychwanegu'r wlad honno neu'r diriogaeth honno i'r Atodlen ar sail y DU gyfan, er mwyn rhoi effaith i'r cytundeb a'i weithredu ledled y DU. O ystyried bod Llywodraeth y DU yn bwriadu ceisio cytundebau â nifer o wledydd yn y blynyddoedd sydd i ddod, gallai fod angen gwneud cyfres barhaus o ddiwygiadau i'r Atodlen. Bydd yn ofynnol i Lywodraeth y DU ddiwygio'r Atodlen bob tro y mae'n ymrwymo i gytundeb gofal iechyd newydd, o leiaf o ran Lloegr. Am fod gan Lywodraeth y DU y cymhwysedd i ddiwygio'r Atodlen ar sail y DU gyfan, mae'n ymarferol ac yn effeithlon iddi gymhwyso unrhyw ddiwygiad o'r fath i Gymru, o ystyried y byddai angen diwygiad cyfatebol o ran Cymru beth bynnag.

Yn olaf, mae'n debygol mai ychydig iawn o effaith fydd rhestru cytundebau o'r fath yn y Rheoliadau HIA yn ei chael ar y Byrddau Iechyd Lleol. Felly nid deddfu ar wahân i Gymru pan fydd angen rhestru cytundeb newydd fyddai'r ffordd fwyaf priodol o roi effaith i'r newidiadau sydd eu hangen yn fy marn i, ac ni fyddai'n ddefnydd doeth o adnoddau Llywodraeth Cymru o ystyried blaenoriaethau pwysig eraill.