Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau o'r Senedd yn dymuno gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i Weinidog Defra dros Les Anifeiliaid a Bioddiogelwch arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

Heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi gosod ‘Rheoliadau Gwaharddiadau Ifori (Esemptiadau) (Proses a Gweithdrefn) (Diwygio) 2025’ (“OS y DU”) gerbron Senedd y DU drwy arfer y pwerau a roddwyd gan Ddeddf Ifori 2018 (“y Ddeddf”).

Mae'r Ddeddf yn gwahardd masnachu eitemau a wneir o ifori, neu sy'n ei gynnwys, gydag esemptiadau cyfyngedig ar gyfer masnachu eitemau ifori nad ydynt yn cyfrannu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at botsio rhywogaethau ifori yn barhaus. Mae adran 2 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer rhoi tystysgrif esemptio ar gyfer eitemau ifori cyn 1918 o werth artistig, diwylliannol neu hanesyddol eithriadol o uchel.

Mae OS y DU yn diwygio'r Ddeddf drwy ychwanegu sefydliadau ychwanegol (Sefydliadau Rhagnodedig) at y rhestr o sefydliadau sydd â'r wybodaeth a'r arbenigedd angenrheidiol i roi cyngor i'r Ysgrifennydd Gwladol ar geisiadau am dystysgrifau esemptio o dan adran 2 o'r Ddeddf.

Bydd OS y DU yn ychwanegu'r Sefydliadau Rhagnodedig a ganlyn at y Ddeddf:

  • Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol ar Lannau Mersi;
  • Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Gogledd Iwerddon; ac
  • Amgueddfa Genedlaethol Cymru. 

Rwy'n falch bod amgueddfa yng Nghymru yn cael ei hychwanegu at y rhestr o ‘Sefydliadau Rhagnodedig’. Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a thrwy gydnabod arbenigedd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, mae'r OS yn rhoi gwell mynediad i aseswyr ar gyfer pobl Cymru.

Unrhyw effaith y gall yr offeryn ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru:

Nid yw OS y DU yn lleihau nac yn tanseilio pwerau Gweinidogion Cymru mewn unrhyw ffordd, ac nid yw'n creu, yn diwygio nac yn dileu unrhyw swyddogaethau a roddir i Weinidogion Cymru.

Hoffwn sicrhau'r Senedd mai polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru ar faterion sydd o fewn ei chymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, mae manteision o gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Mae'r DU wedi bod yn defnyddio dull gweithredu unffurf o ran y polisi hwn ers blynyddoedd lawer ac mae aliniad parhaus i sicrhau cysondeb yn hanfodol. 

Gweinidogion Cymru yw'r ‘awdurdod cenedlaethol priodol’ o hyd ar gyfer rheoliadau sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.