Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daeth Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSVAR) 2000 i rym ar 1 Ionawr 2020 ac maent, a hynny yn gywir iawn, yn datgan bod pob cerbyd gwasanaeth cyhoeddus yn hygyrch i bawb.  Maent yn anelu at ddileu y rhwystrau y mae nifer o bobl yn eu hwynebu wrth ddefnyddio bysiau a threnau, ac rwy'n cefnogi hyn yn llawn.

Bydd y rheoliadau yn berthnasol i trafnidiaeth i ddysgwyr sydd wedi'i ddarparu gan awdurdodau lleol yn ôl disgresiwn ble y mae awdurdodau lleol yn casglu tâl gan y dysgwr, ac mae hyn fel arfer ar gyfer dysgwyr ôl 16.  Ni fydd y rheoliadau yn cynnwys trafnidiaeth y mae awdurdodau lleol yn ei ddarparu i ddysgwyr yn eu hardal o dan drefniadau statudol neu ble nad yw'r awdurdod lleol yn codi tâl am drefniadau teithio yn ôl disgresiwn.

Rwy'n ysgrifennu atoch i'ch diweddaru o ddatblygiadau sy'n codi o'm trafodaethau gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, y Gwir Anrh. Grant Shapps AS ynglŷn a effaith y rheoliadau ar trafnidiaeth i ddysgwyr.  Rwy'n falch o nodi bod drefniant pontio dros dro wedi cael ei gyflwyno.  Er nad oes gan yr Adran Drafnidiaeth unrhyw fwriad o ddiddymu'r Rheoliad, a ddaw i rym ar 1 Ionawr 2020, bydd yr estyniad hwn yn galluogi'r awdurdodau lleol i gynllunio sut y maent yn bwriadu lliniaru canlyniadau anfwriadol y Rheoliad hwn ar gludiant i'r ysgol.

Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol ac ysgol a choleg sy'n comisiynu eu gwasanaethau eu hunain, i gynnig estyniad dwy flynedd ar y cychwyn o'r PSVAR ar gyfer cerbydau sy'n darparu cludiant rhwng y cartref a'r ysgol, ble y caiff hyd at ugain y cant o seddau eu gwerthu. Gan nad yw hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli, yr Adran Drafnidiaeth fydd yn gweinyddu ac yn cydsynio'r estyniad gydag awdurdodau lleol.

Bydd fy swyddogion yn trafod â'r awdurdodau lleol i glywed eu barn am y cynnig ac i gasglu gwybodaeth ynghylch sut y maent yn bwriadu cydymffurfio â'r Rheoliad, pan ddaw y trefniant pontio i ben.