Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths MS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod heddiw wedi gosod Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021, ochr yn ochr â'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, a chynhelir dadl yn eu cylch yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Mawrth 2021.

Fel y dwedais yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 5 Hydref 2020, rwyf wedi ymrwymo i wahardd trydydd partïon masnachol rhag gwerthu cŵn a chathod bach yng Nghymru cyn diwedd tymor y Senedd hwn.

Bydd y Rheoliadau hyn yn newid y trefniadau trwyddedu ar gyfer gwerthu anifeiliaid i fod yn anifeiliaid anwes yng Nghymru, sy'n cynnwys gwahardd trydydd partïon masnachol rhag gwerthu cŵn a chathod bach. Mae sicrhau'r safonau lles gorau posibl ledled Cymru yn flaenoriaeth a bwriad y Rheoliadau newydd yw hyrwyddo bridio cyfrifol a sicrhau bod cŵn a chathod bach yn cael eu bridio o dan amodau addas.

Rwyf bob amser wedi dweud na all gwaharddiad ar ei ben ei hun fynd i'r afael â'r holl broblemau sy'n gysylltiedig â masnachu cŵn bach. Mae'r gwaharddiad arfaethedig yn un rhan yn unig o'r gwaith sy'n gysylltiedig â gwella safonau lles mewn sefydliadau bridio cŵn, sy'n cynnwys mynd i'r afael â rhwystrau i gynnal camau gorfodi.

Rwyf hefyd yn falch o’ch hysbysu, gan weithio'n agos gydag Awdurdodau Lleol, fod gwaith ar y gweill i fynd i'r afael â rhwystrau i orfodi Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014. Mae prosiect tair blynedd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi cael ei sefydlu gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Mae’r prosiect yn cynnwys gwella hyfforddiant a chanllawiau ar gyfer arolygwyr, a defnyddio adnoddau yn well o fewn Awdurdodau Lleol a ledled Cymru. Yr Awdurdodau Lleol sy’n arwain y prosiect.

Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Awdurdodau Lleol a'r Gweinyddiaethau eraill i sicrhau ein bod yn cyflwyno newidiadau a fydd yn cael effaith barhaol ar safonau lles cŵn a chathod sy’n cael eu bridio yng Nghymru.