Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae llygredd amaethyddol yn parhau i gael effaith ar grynoadau dŵr ledled Cymru, sy'n andwyol i iechyd y cyhoedd, yr economi wledig a bioamrywiaeth. Mae llygredd o darddiad penodol a llygredd gwasgaredig o amaethyddiaeth yn parhau i ddigwydd yn rhy aml o lawer.

Ar 14 Tachwedd 2018, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig yn rhoi amlinelliad o'm bwriad i gyflwyno dull o fynd i'r afael â llygredd o amaethyddiaeth drwy Gymru gyfan. Flwyddyn yn ddiweddarach, rwyf yn sylweddoli fwyfwy hyd yn oed yr angen i weithredu. 

Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi rhoi cyllid i swyddogion llaeth Cyfoeth Naturiol Cymru i roi cyngor i ffermwyr ar fodloni’r rheoliadau.  Rwyf hefyd wedi gwrando ar farn rhanddeiliaid ar fanteision rheoleiddio a'r cyfle posibl o ddefnyddio mesurau eraill yn hytrach na rheoleiddio. Mae prosiect yn edrych ar opsiynau gwirfoddol, wedi'i ariannu ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac NFU Cymru, wedi bod ar waith i ddatblygu fframwaith dŵr drafft. Mae'r gwaith hwn wedi tynnu sylw at y ffaith y gallai fod yn bosibl cynnig dull mwy hyblyg yn seiliedig ar ymreolaeth haeddiannol i gynnig yr un canlyniadau â rheoleiddio.Rwyf am edrych ymhellach a oes ffordd y gallwn ddarparu hyblygrwydd i ffermwyr i gyflawni canlyniadau amgylcheddol yn y ffordd sydd fwyaf addas i fusnesau unigol.

Byddaf yn ystyried y cyngor gan swyddogion ar gyflwyno'r rheoliadau amaethyddol ym mis Ionawr yn dilyn trafodaethau pellach gydag is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar sut y gellid sicrhau yr ymreolaeth haeddiannol hwn.

Mae cynrychiolwyr y diwydiant amaethyddol wedi awgrymu dull gwahanol. Mae'n hanfodol eu bod yn cydnabod maint y broblem yng Nghymru ar fyrder ac yn defnyddio'r cyfle hwn i ddatblygu'r sefyllfa.

Byddaf yn sicrhau bod gan y Cynulliad Cenedlaethol y cyfle i graffu yn llawn ar unrhyw reoliadau fydd yn cael eu cynnig.