Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi fy mhenderfyniad i gyflwyno rheoliadau a fydd yn gymwys i Gymru gyfan ar gyfer ymdrin ag effaith sylweddol a pharhaus llygredd amaethyddol ar iechyd ac ansawdd ein hafonydd, ein llynnoedd a’n nentydd.

Mae dŵr glân yn un o hanfodion bywyd yng Nghymru, i’w yfed, ar gyfer iechyd ein pobl, er mwyn cynhyrchu bwyd ac ar gyfer ein hamgylchedd naturiol. Mae gormod o afonydd yn cael eu llygru gan weithgareddau amaethyddol ar hyn o bryd, o achosion acíwt o lygru o darddleoedd penodol i ddŵr ac effeithiau cronnol llygredd gwasgaredig. O’r herwydd nid ydym yn bodloni disgwyliadau’r cyhoedd na’n safonau amgylcheddol. Mae nifer yr achosion o lygredd amaethyddol yn parhau i fod lawer yn rhy uchel, gyda chyfartaledd o dros 3 o achosion bob wythnos dros y 3 blynedd diwethaf. Mae hyn yn dangos nad oes unrhyw duedd hirdymor am i lawr. Mae angen i ni wella gan godi ansawdd ein cyrsiau dŵr ar draws Cymru drwy atal achosion fel y rhain a rheoli peryglon ehangach llygredd gwasgaredig.

Mae’r Rheoliadau yr wyf yn eu cyflwyno yn gosod llinell sylfaen glir a chyson, gan sicrhau bod ein holl ffermwyr yn deall beth sydd angen iddynt ei wneud i ymuno â’r rheini sydd eisoes yn gwarchod ein hamgylchedd cyfoethog ac yn rheoli tail fel maethyn gwerthfawr yn hytrach na gwastraff. Mae’r mesurau yn rhai cymesur â’r peryglon o lygredd sy’n deillio o arferion amaethyddol, ac ychydig o effaith y bydd hyn yn ei chael ar rai ffermwyr. Bydd angen amser a chymorth ar ffermwyr eraill er mwyn gwella.

Nid yw’r safonau sylfaenol sy’n cael eu pennu gan y Rheoliadau hyn yn ormodol.  Maen nhw’n pennu safonau cynhyrchu yng Nghymru sy’n cymharu â’r rheini yng ngweddill y DU ac Ewrop.  Yn ogystal â bod yn bwysig i ddiogelu’n hamgylchedd a’n lles, mae ffurfioli safonau arfer da fel hyn yn hanfodol i fusnesau Cymru sydd am gadw eu marchnadoedd yn Ewrop a chipio rhai eraill yng ngweddill y byd. Mae’r Rheoliadau hyn yn sicrhau ein bod yn pennu ein llinell sylfaen reoliadol ar y lefel briodol, yn unol ag egwyddorion y Cytundeb Masnach a Chydweithredu â’r UE, er mwyn osgoi tariffau yn y dyfodol ar allforion i’r UE, sef yr hyn fyddai’n cyfateb i senario dim cytundeb ar gyfer ffermio yng Nghymru.

Er bod y rheoliadau hyn wedi’u datblygu’n bennaf i atal llygru annerbyniol o gyrsiau dŵr, mae ffactorau amgylcheddol eraill wedi’u hystyried. Bydd y rheoliadau hyn yn arwain at ddefnyddio maethynnau’n fwy effeithiol ar ffermydd ac felly at ollwng llai o amonia i’r atmosffer.  Mae’r rheoliadau hyn yn rhan allweddol o’n hymdrechion i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr amaethyddiaeth ac i wella ansawdd aer a thrwy weithio ar lefel Cymru gyfan, adlewyrchir cyngor Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn ei adroddiad “Land Use: Policies for a net zero UK”.

Mae’r penderfyniad hwn yn dilyn cyfnod hir o ystyried ac ymgysylltu. Rwyf wedi rhoi pob cyfle i’r diwydiant newid ei ymddygiad drwy gamau gwirfoddol. Mae rhywfaint o gynnydd wedi bod dros y 4 blynedd diwethaf ond nid yw’n ddigon o ystyried graddfa a chyfradd y broblem a’r ymrwymiad i newid sydd ei angen.  

Cyn gwneud penderfyniad roeddwn yn awyddus i sicrhau bod y diwydiant mewn sefyllfa i allu gweithredu unrhyw reoliadau newydd.  Ceir ansicrwydd o hyd beth yw effeithiau’r pandemig ar gadwyn gyflenwi bwyd amaeth, ond mae prisiau’r farchnad ar gyfer cynnyrch amaethyddol yn dal yn iach ac mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng yr UE a’r DU wedi chwalu’r bygythiad o dariffau allforio.  Rwyf wedi cynnwys cyfnodau pontio priodol yn y rheoliadau i ysgafnhau’r baich gofynion ar y diwydiant am y tro.  Bydd hyn yn caniatáu i ffermwyr gyflawni’r gofynion arfer da cychwynnol a fydd yn cael eu cyflwyno ar 1 Ebrill 2021 gan roi digon o amser iddynt allu cynllunio a pharatoi ar gyfer y gofynion ychwanegol. 

Bydd angen i rai ffermwyr fuddsoddi i wella’u seilwaith.  Mae llawer o ffermwyr eisoes wedi mynd ati i reoli maethynnau’n well, i gynnal eu perfformiad da a’u lle yn y farchnad, yn aml gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru.  Hyd at Fedi 2020, gwnaethom ddarparu £22m trwy’r Grant Cynhyrchu Cynaliadwy i’w helpu i wella’u seilwaith, gyda thros 500 o ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyflwyno ceisiadau llawn.   Ar gyfer 2021, neilltuwyd £1.5 miliwn yn ychwanegol i helpu ffermwyr i wella ansawdd dŵr a chaiff £11.5m o arian cyfalaf ei ddefnyddio i roi help uniongyrchol i fusnesau fferm i wella’u seilwaith rheoli maethynnau ar y fferm.

I helpu i gyflwyno’r rheoliadau hyn, rydym wedi cyhoeddi canllawiau priodol a rhaglen effeithiol ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth.  Mae Cyswllt Ffermio eisoes wedi cynnal dros 400 o sesiynau cysylltiedig gan gynnwys clinigau pridd a seilwaith fferm, cyfarfodydd yn y dalgylchoedd blaenoriaeth a digwyddiadau am Ffermio Cynaliadwy a Ffermio ar gyfer y Dyfodol, gyda bron 13,000 o ffermwyr yn manteisio arnynt.

Mae’r gwaith hwn ar lygredd amaethyddol  yn rhan o gyfres o fesurau ar gyfer gwella ansawdd dŵr ar draws Cymru. Rwyf hefyd wedi darparu £4.5 miliwn yn 2020/21 er mwyn mynd i’r afael â llygredd dŵr o fwyngloddiau, sef ffynhonnell fawr arall o lygredd dŵr yng Nghymru.

Rwy’n cydnabod bod y diwydiant ffermio wedi bod yn awyddus ers tro i gyflwyno ei ddull ei hun o reoli maethynnau sy’n cynnwys mwy o hyblygrwydd yn eu harferion ffermio i ymateb i’r amodau amgylcheddol.  Mae’r rheoliad yn cynnwys cyfle i’r diwydiant ddangos sut y gall wneud hyn trwy weithio o fewn fframwaith o reoliadau i sicrhau canlyniadau gwell o ran ansawdd dŵr ac allyriadau i’r atmosffer. Bydd gofyn i unrhyw gynnig a ystyrir gan Weinidogion Cymru fodloni’r safon ofynnol genedlaethol a bennir ac a gynhelir gan y ddeddfwriaeth hon.

Mae llygredd amaethyddol wedi cael effaith ar grynoadau dŵr ledled Cymru am yn rhy hir o lawer ac rwy’n benderfynol o weithredu i warchod cefn gwlad Cymru at y dyfodol. Bydd y ddeddfwriaeth hon, ynghyd â chanllawiau, cymorth a chamau gorfodi priodol yn gam mawr ymlaen o ran gwella ansawdd amgylchedd Cymru a chynaliadwyedd ein diwydiant amaeth.