Llyr Gruffydd AS, Y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Bydd yr Aelodau o'r Senedd am gael gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig o ran Cymru.
O dan Erthygl 2A(c)(ii) o Reoliad (EU) 2019/1021 ar lygryddion organig parhaus ("Rheoliadau POPs"), gofynnodd Llywodraeth y DU am gydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) 2026 ("Rheoliadau 2026") o ran Cymru.
Mae Rheoliadau 2026 yn gweithredu diwygiadau a fabwysiadwyd yn 11eg a 12fed Gynhadledd y Partïon i Gonfensiwn Stockholm ar Lygryddion Organig Parhaus. Maen nhw hefyd yn diweddaru rhai rheolaethau domestig presennol, yn cynnwys terfynau crynodiadau a rhanddirymiadau yn ymwneud â PFOS a PBDEs. Disgwylir i ddiwygiadau perthnasol y Confensiwn gael effaith yn rhyngwladol ar gyfer y DU ar 16 Rhagfyr 2026, ac mae angen rheolaethau domestig cyfatebol arnynt i helpu i sicrhau bod y DU yn cydymffurfio â'i rhwymedigaethau rhyngwladol.
Mae Rheoliadau 2026 yn diwygio Rhan A o Atodiad I i Reoliadau POPs drwy wneud y canlynol:
- diweddaru terfynau crynodiadau ar gyfer POPs presennol, gan gynnwys PFOS a PBDEs;
- cyflwyno cofnodion newydd ar gyfer clorpyriffos, Dechlorane Plus, asidau perfflworocarbocsylig cadwyn-hir (LCPFCAs), paraffinau clorinedig cadwyn-ganolig (MCCPs) ac UV-328; a
- phennu trothwyon crynodiadau graddol a rhanddirymiadau manwl at ddefnydd diwydiannol, awyrofod, amddiffyn a meddygol penodol.
Mae'r newidiadau hyn yn adlewyrchu penderfyniadau SC-11/10, SC-11/11, SC-12/9, SC-12/10, SC-12/12 a SC-12/14 a fabwysiadwyd o dan Gonfensiwn Stockholm.
Egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw y dylai'r gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig gael ei gwneud a'i diwygio yng Nghymru. Fodd bynnag, y tro hwn, rwy'n ystyried ei bod hi'n briodol i'r diwygiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU fod yn gymwys o ran Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod rhwymedigaethau rhyngwladol yn cael eu gweithredu mewn modd cyson ac yn cynnal dull rheoleiddio cyson ledled Prydain. O ystyried bod natur y diwygiadau'n dechnegol i raddau helaeth, ac yn gweithredu newidiadau y cytunwyd arnynt i'r gyfundrefn POPs, rwy'n credu bod bwrw ymlaen drwy OS y DU yn cyd-fynd ag Egwyddorion Llywodraeth Cymru ar Ddeddfwriaeth y DU mewn Meysydd Datganoledig.
Gosodwyd Rheoliadau 2026 gerbron Senedd y DU ar 14 Hydref 2026 a byddant yn dod i rym ar 16 Rhagfyr 2026.
