Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno cael gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i Ysgrifennydd Gwladol DEFRA Llywodraeth y DU arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

Yn unol ag Erthygl 2A (c)(ii) o Reoliad (EU) 2019/1021 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 ar Lygryddion Organig Parhaus (ail-lunio) ("Rheoliadau POPs") gofynnwyd am gytundeb gan y Farwnes Hayman o Ullock i wneud Offeryn Statudol o'r enw Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Rhif 3) 2025 ("Rheoliadau Rhif 3") mewn perthynas â Chymru.

Yng ngoleuni gwybodaeth newydd a brys gan y sector technoleg feddygol, mae angen cymryd y camau deddfwriaethol cyflym hyn i liniaru tarfu sydd ar fin digwydd i'r sector meddygol, gan gynnwys GIG Cymru, yn dilyn cydnabod defnyddiau meddygol sylweddol Dechlorane Plus a UV-238.

Mae ffeithiau ynghylch y mater hwn yn dal i ddod i'r amlwg, ac mae angen inni sicrhau bod gofal iechyd, cynhyrchion meddygol a sectorau hanfodol eraill yn cael eu diogelu drwy ganiatáu defnyddio cemegion perthnasol. Felly, rwyf wedi cydsynio i Reoliadau Rhif 3. Mae'r rhain yn darparu ar gyfer dileu gwaharddiadau ar Dechlorane Plus ac UV-328 drwy ddiwygio'r tabl yn Rhan A o Atodiad I (Sylweddau a restrir yn y Confensiwn ac yn y Protocol yn ogystal â sylweddau a restrir yn y Confensiwn yn unig) i Reoliadau POPs.

Mae Llywodraeth y DU wedi cynghori eu bod yn bwriadu ailgyflwyno'r gwaharddiadau yn y tymor byr i'r tymor canolig a'u bod yn parhau i fod wedi ymrwymo i Gonfensiwn Stockholm ar Lygryddion Organig Parhaus. Bydd y diwydiant yn gwybod, drwy DEFRA, am ein hymrwymiad parhaus i ailgyflwyno gwaharddiadau priodol. 

Nid yw hwn yn benderfyniad yr wyf yn ei wneud yn ysgafn, ond fy mhrif bryder yw sicrhau nad yw pobl Cymru yn gweld tarfu ar ddarpariaeth feddygol hanfodol yng Nghymru. 

Egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw y dylai'r gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig gael ei gwneud a'i diwygio yng Nghymru. Fodd bynnag, y tro hwn, rwy'n ystyried ei bod yn briodol i sylwedd y diwygiadau fod yn gymwys i Gymru. Yn fy marn i, nid deddfu ar wahân i Gymru fyddai'r ffordd fwyaf priodol o roi effaith i'r newidiadau sydd eu hangen, ac ni fyddai'n ddefnydd doeth o adnoddau Llywodraeth Cymru. Bydd gweithredu'n amserol yn atal tarfu ar gynhyrchu a chyflenwi yn y sector meddygol.

Cafodd Rheoliadau Rhif 3 eu gwneud a'u gosod ar 20 Mawrth gan yr Ysgrifennydd Gwladol wrth arfer y pwerau wedi'u rhoi gan Erthygl 15(1) o Reoliadau POPs, ac maent yn dod i rym un diwrnod yn ddiweddarach, ar 21 Mai.