Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) yn gweithredu Pennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, gan ddisodli Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 sy’n gwahardd smygu mewn gweithleoedd a mannau cyhoeddus caeedig. Byddant hefyd yn disodli’r diwygiadau dilynol i reoliadau 2007 sy’n ymwneud â smygu mewn cerbydau preifat.  

Gan ddefnyddio pwerau yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, bydd y rheoliadau hefyd yn ymestyn y gwaharddiad ar smygu i gynnwys mannau awyr agored ar diroedd ysbytai, tiroedd ysgolion, a meysydd chwarae awdurdodau lleol.

Rhwng 25 Mai ac 17 Awst 2018, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft. Mae crynodeb o’r ymatebion a ddaeth i law yn sgil yr ymgynghoriad wedi ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/rheoliadau-mangreoedd-cherbydau-di-fwg-cymru-2018

Tynnodd y broses ymgynghori sylw at nifer o faterion penodol a gafodd eu hystyried a’u trafod ymhellach gyda rhanddeiliaid wrth ddatblygu’r rheoliadau drafft terfynol. Mae’r UE ac aelod-wladwriaethau eraill wedi cael eu hysbysu ynghylch y rheoliadau terfynol drafft hyn o dan Gyfarwyddeb Safonau Technegol 2015/1535/EU https://ec.europa.eu/growth/tools-databases/tris/en/. Mae cyfnod segur o dri mis ar waith ar hyn o bryd, pan na cheir cymryd camau pellach mewn perthynas â’r rheoliadau drafft.

Rwy’n bwriadu i’r ddadl ar y rheoliadau hyn yn y Cyfarfod Llawn gael ei chynnal yn ystod tymor yr hydref, a byddaf yn gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi dyddiad priodol i’r darpariaethau ddod i rym.

Rwy’n parhau’n ymrwymedig i wneud rhagor o fannau cyhoeddus yng Nghymru yn ddi-fwg, ac yn y tymor nesaf o’r Senedd rwy’n bwriadu bwrw ymlaen â’r gwaith o ymestyn y gwaharddiad ar smygu i fannau awyr agored caffis a bwytai, a chanol dinasoedd a threfi.