Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno cael gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i Ysgrifennydd Gwladol DEFRA Llywodraeth y DU arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig o ran Cymru.

Yn unol ag Erthygl 4A(3) o (EC) Rhif 1907/2006 ("REACH y DU"), gofynnwyd am gydsyniad Gweinidogion Cymru gan y Farwnes Hayman o Ullock i wneud Offeryn Statudol o'r enw Rheoliadau REACH (Diwygio) 2026 ("y Rheoliadau") o ran Cymru.

Mae'r Rheoliadau yn diwygio Atodiad XVII o REACH y DU. Maent yn cyflwyno cyfyngiadau newydd ar ddefnyddio bwledi sy'n cynnwys plwm a'i gyfansoddion a'u rhoi ar y farchnad. Mae'r newidiadau hyn yn sicrhau bod cyfraith y DU yn cyd-fynd â'r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf ac ymrwymiadau polisi i leihau risgiau amgylcheddol ac iechyd sy'n gysylltiedig â gweithgareddau saethu sy'n defnyddio plwm.

Mae'r Rheoliadau'n diwygio Atodiad XVII i ychwanegu cofnodion a gofynion newydd ar gyfer teflynnau sy'n cynnwys plwm, gan gynnwys pelets a mathau eraill o fwledi. Mae'r diwygiadau'n pennu terfynau ar grynodiadau o blwm mewn teflynnau, ac yn nodi dyddiadau ar gyfer dod â'u defnydd i ben yn raddol ar feysydd saethu awyr agored ac mewn cyd-destunau eraill. Mae esemptiadau ar gyfer arfau aer, athletwyr elitaidd, rhai disgyblaethau saethu, a defnyddiau proffesiynol penodol fel yr heddlu, y fyddin a phrofi technegol.

Mae darpariaethau ychwanegol yn ei gwneud yn ofynnol i feysydd saethu awyr agored roi mesurau ar waith i leihau risg a chadw dogfennau ar gyfer awdurdodau gorfodi. Mae gofynion labelu'n cael eu cyflwyno ar gyfer rhai teflynnau sy'n cynnwys plwm, a rhaid i gyflenwyr gadw cofnodion o werthu i athletwyr elitaidd.

Rhaid i feysydd saethu awyr gadw cofnodion o'r mesurau i leihau risg wedi'u rhoi ar waith a chyflwyno gwybodaeth benodol i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o leiaf bob tair blynedd, neu pryd bynnag bydd newid wedi'i wneud. Mae'n ofynnol i CNC hefyd lunio, cyhoeddi a chynnal rhestr o safleoedd sydd wedi cyflwyno'r wybodaeth hon, a gallant ofyn am wybodaeth ar unrhyw adeg i wirio cydymffurfiaeth. Gall methu â chydymffurfio arwain at gamau gorfodi o dan Reoliadau Gorfodi REACH 2008, gan gynnwys ymchwiliad, cyflwyno hysbysiadau ac, o bosibl, erlyn. Bydd CNC yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion.

Rhoddir dyddiad penodol i bob categori o deflyn, ac erbyn y dyddiad hwnnw bydd defnyddio teflynnau o'r fath neu eu rhoi ar y farchnad yn cael ei wahardd, a bydd trefniadau pontio ar waith ar gyfer cydymffurfio. Y nod cyffredinol yw lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â phlwm mewn bwledi i fywyd gwyllt, da byw, pridd, dŵr ac iechyd y cyhoedd, wrth ddarparu esemptiadau cymesur ar gyfer rhai defnyddwyr a defnyddiau.

Er mai egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw y dylai Gweinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig lle mae cymhwysedd gweithredol, o dan REACH y DU nid oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud y Rheoliadau hyn eu hunain. Felly, yn yr achos hwn, ystyrir ei bod yn briodol i'r Rheoliadau gael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Rwy'n credu ei bod yn briodol i sylwedd diwygiadau Llywodraeth y DU fod yn berthnasol i Gymru er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'n hymrwymiadau amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd ac i sicrhau cysondeb rheoleiddiol ledled y DU. 

Cafodd y Rheoliadau eu gwneud ar 2 Mawrth 2026 gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 68(1), 73(2), a 132A o REACH y DU, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2026.