Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau o'r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol fy mod wedi rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig arfer pŵer gwneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

Gosodwyd yr Offeryn Statudol (OS) uchod gerbron Senedd y DU gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 18 Hydref 2023 drwy arfer y pwerau a roddwyd gan erthygl 126(1) o reoliad (EU) 2017/635 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill.

Mae'r rheoliadau hyn yn dirymu cyfyngiadau a osodwyd ar rai sefydliadau bwyd Brasil. Bydd hyn yn galluogi sefydliadau bwyd Brasil y cyfyngwyd arnynt yn flaenorol i gael eu hychwanegu at y rhestr o sefydliadau a gymeradwywyd i allforio i Brydain Fawr, ar ôl i restr wedi'i diweddaru o'r sefydliadau a gymeradwywyd gan awdurdodau cymwys Brasil gael ei chyflwyno.

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru:

Nid yw'r Rheoliadau yn lleihau nac yn tanseilio pwerau Gweinidogion Cymru mewn unrhyw ffordd, ac nid ydynt yn creu, diwygio nac yn dileu unrhyw swyddogaethau a roddir i Weinidogion Cymru.

Hoffwn sicrhau'r Senedd mai polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, mae manteision i gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Ar yr achlysur hwn, rwyf wedi rhoi fy nghydsyniad i'r Rheoliadau hyn er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a hwylustod o ran newid polisi yn y dyfodol, cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau rhyngwladol, cydgysylltiad trawslywodraethol a chysondeb.

Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 18 Hydref a byddant yn dod i rym ar 8 Tachwedd 2023.