Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Bydd aelodau'r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol fy mod wedi rhoi caniatâd i'r Gweinidog Gwladol arfer is-bŵer deddfu mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.
Ceisiodd y Gweinidog Gwladol dros Bioddiogelwch, Iechyd a Lles Anifeiliaid, y Farwnes Sue Hayman, fy nghytundeb i wneud Offeryn Statudol o'r enw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Ymestyn Cyfnodau Pontio) (Diwygio) 2025 ("Rheoliadau 2025") i fod yn gymwys mewn perthynas â'r Deyrnas Unedig.
Gwnaed yr offeryn uchod gan, y Farwnes Hayman, drwy arfer y pwerau a roddwyd o dan erthygl 144(6) o Reoliad (UE) 2017/625 Senedd Ewrop a'r Cyngor ('yr OCR') a pharagraff 2 o Atodiad 6 iddo.
Rhoddwyd caniatâd i Lywodraeth y DU wneud yr offeryn hwn o ganlyniad i'r cytundeb ar y Model Gweithredu Targed y Ffin (BTOM) rhwng y tair llywodraeth ym Mhrydain Fawr i gyflwyno cyfundrefn iechydol a ffytoiechydol gydlynol a chyson ar gyfer nwyddau wedi'i fewnforio i Brydain Fawr i ddiogelu bioddiogelwch a sicrhau bod safonau diogelwch bwyd yn cael eu cynnal.
Pwrpas Rheoliadau 2025 yw ymestyn cyfnod gweithredu gwiriadau mewnforio ar nwyddau iechydol a ffytoiechydol penodol ('SPS') sy'n dod i mewn i Brydain Fawr o wledydd penodol, tan 31 Ionawr 2027. Bydd hyn yn caniatáu digon o amser i drosglwyddo i sail ddeddfwriaethol barhaol ar gyfer y BTOM. Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi manylion tarddiad, diben ac effaith Rheoliadau 2025 ar gael yma (dolen allanol).
Mae'r Ddarpariaeth Arbedion Trosiannol (TSP) yn darparu ar gyfer pedwar maes hyblygrwydd allweddol i sicrhau bod polisïau BTOM yn cael eu gweithredu mewn ffordd reoledig. Mae'r rhain yn rhaghysbysu, ardystio, (gan alluogi rhedeg y peilot / cynllun logisteg ardystio), lleoliad gwiriadau (h.y. i ffwrdd o Safle Rheoli Ffiniau), ac amlder gwiriadau. Pe bai'r TSP yn dod i ben ar 1 Gorffennaf 2025, byddai unrhyw bolisïau sy'n weddill nad oeddent eto wedi trosglwyddo i sail ddeddfwriaethol barhaol o dan y BTOM 'yn ddiofiant' i'r rheolaethau cyfredol sy'n ofynnol gan yr OCR. Yn yr achos hwn, byddai darpariaethau presennol yr OCR yn berthnasol a byddai gwiriadau SPS yn cael eu gosod ar fewnforion sy'n cyrraedd Cymru.
Gosodwyd Rheoliadau 2025 gerbron Senedd y DU ar 29 Ebrill a byddant yn dod i rym ar 20 Mai 2025.
Nid yw Rheoliadau 2025 yn lleihau nac yn tanseilio pwerau Gweinidogion Cymru mewn unrhyw ffordd, ac nid ydynt yn creu, diwygio nac yn dileu unrhyw swyddogaethau a roddwyd i Weinidogion Cymru.
Hoffwn roi sicrwydd i'r Senedd, fel arfer polisi Llywodraeth Cymru yw deddfu dros Gymru mewn materion cymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau mae manteision mewn cydweithio â Llywodraeth y DU lle mae rhesymeg glir dros wneud hynny. Ar yr achlysur hwn, rwyf wedi rhoi fy nghydsyniad i'r Rheoliadau hyn am resymau effeithlonrwydd a hwylustod mewn newid polisi yn y dyfodol a chadw at rwymedigaethau rhyngwladol, cydlynu traws-DU, a chysondeb.