Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno cael gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i Ysgrifennydd Gwladol DEFRA Llywodraeth y DU arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig o ran Cymru.
Yn unol ag Erthygl 21(8) o Reoliad (EU) 2017/852 ar fercwri ("y Rheoliad Mercwri"), gofynnwyd am gydsyniad gan y Farwnes Hayman o Ullock i wneud Offeryn Statudol o'r enw Rheoliadau Rheoli Mercwri (Diwygio) 2025 ("Rheoliadau 2025") o ran Cymru.
Mae Rheoliadau 2025 yn diwygio'r Rheoliad Mercwri, sy'n gymwys i Gymru, Lloegr a'r Alban. Maent yn diweddaru Rhan A o Atodiad II er mwyn i gyfraith y DU fod yn gyson â phenderfyniadau diweddar a fabwysiadwyd o dan Gonfensiwn Minamata ar Fercwri (COP-4 a COP-5), gan adlewyrchu ymrwymiadau rhyngwladol y DU.
Mae Rheoliadau 2025 yn cyflwyno cofnodion newydd a dyddiadau dirwyn i ben ar gyfer cynhyrchion penodol sy'n cynnwys mercwri. Mae'r rhain yn cynnwys pontydd mesur cynhwysiant a cholled â chywirdeb manwl iawn, yn ogystal â switshis a releiau radio amledd uchel a ddefnyddir mewn offerynnau monitro a rheoli, gydag uchafswm cynnwys mercwri o 20 mg yr eitem, ac eithrio'r rhai a ddefnyddir mewn gwaith ymchwil a datblygu.
Mae Rheoliadau 2025 hefyd yn mynd i'r afael â lampau fflworoleuol cryno (CFLs) at ddibenion goleuo cyffredinol, gan nodi gwahanol gategorïau watedd a dyddiadau dirwyn i ben ar gyfer eu gwahardd. Yn ogystal, mae lampau fflworoleuol llinol (LFLs) a lampau fflworoleuol aflinol (NFLs) yn cael eu cynnwys, gyda mathau penodol o ffosffor a dyddiadau dirwyn i ben graddol. Mae darpariaethau pellach yn gymwys i lampau fflworoleuol catod oer (CCFLs) a lampau fflworoleuol electrod allanol (EEFLs) ar gyfer dangosyddion electronig nad ydynt wedi'u rheoleiddio yn flaenorol. Mae Rheoliadau 2025 yn ymestyn i fedryddion straen i’w defnyddio mewn plethysmograffau, trawsddygiaduron, trosglwyddyddion a synwyryddion gwasgedd tawdd (gydag eithriadau ar gyfer mesur manwl uchel), yn ogystal â phympiau gwactod mercwri, gwrthbwysau ar gyfer teiars a phwysau ar gyfer olwynion, papur a ffilm ffotograffig, a thanwydd ar gyfer lloerennau a llongau gofod.
Neilltuir dyddiad penodol i bob categori cynnyrch erbyn y gwaherddir ei ddefnydd, yn bennaf rhwng 2025 a 2027.
Tra mai egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw y dylai is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â materion datganoledig gael ei gwneud gan Weinidogion Cymru pan fo cymhwysedd gweithredol, y tro hwn ystyrir ei bod yn briodol i Reoliadau 2025 gael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Rwy'n ystyried ei bod yn briodol i sylwedd gwelliannau Llywodraeth y DU fod yn gymwys i Gymru, gan y bydd gweithredu'n amserol yn sicrhau cydymffurfiaeth â'n rhwymedigaethau rhyngwladol o dan Gynhadledd Minamata ar Fercwri. Nid deddfu ar wahân i Gymru fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol o roi effaith i'r newidiadau angenrheidiol.
Cafodd Rheoliadau 2025 eu gwneud ar 2 Rhagfyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthygl 21(8) o'r Rheoliadau Mercwri, ac maent yn dod i rym ar 23 Rhagfyr 2025.
