Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n falch o lansio ymgynghoriad ar Reoliadau drafft Safonau’r Gymraeg (Rhif 8). Bydd y Rheoliadau yn ceisio gosod Safonau’r Gymraeg ar gyfer y naw corff canlynol:

  • Y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol
  • Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol
  • Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
  • Y Cyngor Optegol Cyffredinol
  • Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol
  • Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
  • Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i drefnu ers peth amser ac rwyf wedi penderfynu bwrw ymlaen ag ef yn ôl fel y cynlluniwyd. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol iawn bod yr holl randdeiliaid o dan straen sylweddol a'u bod yn wynebu cyfnod o ansicrwydd oherwydd y sefyllfa bresennol o ran Coronafeirws, neb yn fwy na chyrff y sector iechyd. Byddwn felly yn adolygu'r dyddiad cau maes o law er mwyn sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael cyfle teg i roi ystyriaeth lawn i'r ymgynghoriad.

Bydd y safonau hyn, fel eraill o’u blaen, yn ei gwneud yn glir pa wasanaethau Cymraeg gall bobl ddisgwyl eu derbyn. Maent hefyd yn nodi’n glir beth sydd angen i’r cyrff wneud o ran y Gymraeg.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at dderbyn sylwadau gan rhanddeiliaid erbyn y dyddiad cau sydd wedi nodi ar hyn o bryd fel 15 Mehefin, a byddaf yn ystyried yr holl bwyntiau caiff eu codi cyn symud ymlaen i baratoi Rheoliadau terfynol i’r Senedd graffu arnynt.