Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi ymgynghoriad ar fersiwn drafft o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Ymgymerwyr Dŵr a Charthffosiaeth) 2023.

Mae'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gwneud ymrwymiad i ddatblygu safonau ar gyfer mwy o sectorau a chyrff cyn diwedd tymor presennol y Senedd. Mae dros 130 o gyrff yn ddarostyngedig i safonau ar hyn o bryd. Y cam nesaf yw dod ag ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru o dan y safonau.

Fy mwriad ar gyfer y safonau hyn yw mynd i'r afael â'r gwahanol ffyrdd y mae’r cyhoedd yng Nghymru yn delio gyda chwmnïau dŵr. Edrychaf ymlaen at gael barn rhanddeiliaid ar y Rheoliadau drafft, a byddaf yn ystyried yr holl ymatebion cyn gosod y Rheoliadau terfynol gerbron y Senedd.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar 5 Ebrill 2023.