Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Heddiw, rwyf wedi gwneud Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2025 a byddant yn cael eu gosod gerbron y Senedd ddydd Mawrth, 9 Rhagfyr 2025. Bydd y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Senedd ddydd Mawrth, 20 Ionawr 2026.
Mae’r rheoliadau newydd yn gosod cyfraddau Treth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer gwarediadau sy’n digwydd ar 1 Ebrill 2026, neu ar ôl hynny, fel a ganlyn:
- £130.75 y dunnell ar y gyfradd safonol,
- £8.65 y dunnell ar y gyfradd is,
- £196.15 y dunnell ar y gyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi.
Wrth osod y cyfraddau hyn, rwyf wedi dilyn egwyddorion treth Llywodraeth Cymru a’r amcan i leihau gwarediadau tirlenwi yng Nghymru.
