Elin Jones AS, y Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Heddiw, rwyf wedi gosod Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Esemptiadau) (Cymru) (Diwygio) 2026.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer bach o ddiwygiadau er mwyn gwella Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Esemptiadau) (Cymru) 2026 i sicrhau bod y fframwaith esemptiadau yn cael ei weithredu fel y bwriadwyd.
Mae’r mân newidiadau a wnaed i Ddosbarthiadau A, C ac F yn egluro sut y caiff yr esemptiadau eu gweithredu at ddibenion gwaith awdurdodau lleol o ran gweinyddu, gan gynnwys sicrhau bod perchnogion newydd cymwys eiddo gwag yn cael cyfnod o esemptiad. Maent hefyd yn egluro darpariaethau yn ymwneud ag esemptiadau o ran profiant.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud newidiadau trosiannol i esemptiadau Dosbarth H ar gyfer anheddau a ddelir at ddiben sicrhau eu bod ar gael i’w meddiannu gan weinidogion yr efengyl. Mae’r newidiadau hyn yn sicrhau bod unrhyw feddiannaeth sy’n digwydd cyn 1 Ebrill 2027 yn cael ei diystyru wrth gyfrifo’r cyfnod esemptio newydd o hyd at flwyddyn ar y mwyaf. Mae hyn yn golygu na fydd y terfyn blwyddyn yn cael effaith ymarferol tan 1 Ebrill 2028.
Gyda’i gilydd, mae’r diwygiadau hyn yn hybu’r gwaith o weinyddu esemptiadau’r dreth gyngor yn gyson ledled Cymru ac yn darparu mwy o sicrwydd i drethdalwyr ac awdurdodau lleol.
