Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fis Gorffennaf diwethaf, darparwyd gan Lywodraeth Cymru Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, gan roi sylfaen deddfwriaethol allweddol ar gyfer datblygu system gynllunio gadarnhaol a chydnerth sy’n galluogi.  Mae camau breision wedi’u cymryd i roi’r Ddeddf ar waith, gyda thri chwarter y darpariaethau bellach mewn grym neu’n rhannol mewn grym.  

Rydym wedi blaenoriaethu darpariaethau’r Ddeddf er mwyn i’r rhannau hynny fyddai’n cael yr effaith fwyaf yn cael eu rhoi ar waith gyntaf.  Mae’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn brif flaenoriaeth o gofio’i bwysigrwydd mewn cysylltiad â materion defnyddio tir o arwyddocâd cenedlaethol.  Mae camau cyntaf y gwaith paratoi wedi dechrau, gyda chyhoeddi at ddiben ymgynghori Ddatganiad drafft o Gyfranogiad y Cyhoedd, sy’n pennu amserlen fanwl ar gyfer paratoi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a’r camau a gymerir i gyfranogi â rhanddeiliaid a’r cyhoedd wrth ei baratoi.  I weld y datganiad drafft, cliciwch ar y ddolen atodedig:

Mae ceisiadau cynllunio ar gyfer prosiectau seilwaith sydd o’r arwyddocâd mwyaf i Gymru oherwydd eu cymhlethdod a’u heffaith bellach yn cael eu hystyried a’u dyfarnu gan Weinidogion Cymru.  Mae’r broses newydd ar gyfer caniatáu Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn golygu bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar geisiadau o fewn cyfnod statudol, gan roi sicrwydd i ddatblygwyr a chymunedau a sbarduno twf yr economi.

Ers mis Hydref, mae Awdurdodau Cynllunio Lleol wedi cael dod ynghyd i ddechrau’r broses o baratoi Cynllun Datblygu Strategol (CDS).  Dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol roi blaenoriaeth uchel i baratoi Cynlluniau Datblygu Strategol yn yr ardaloedd hynny lle mae rownd gyntaf y Cynlluniau Datblygu Lleol wedi’u cwblhau a lle ceir meysydd a fyddai’n elwa o gael eu hystyried dros ardal ehangach nag ardal un Awdurdod.

Er mwyn sicrhau bod gan gymunedau lais cryfach, rydym wedi gosod gofyn ar ddatblygwyr sy’n cynnig datblygiad mawr i ymgynghori â’r cyhoedd, cynghorau tref a chymuned ac ymgyngoreion statudol perthnasol cyn gwneud cais ac i roi sylw i’w sylwadau cyn cyflwyno cais cynllunio’n ffurfiol.  Trwy gael cyfranogi’n gynnar yn y broses ac mewn ffordd mor ystyrlon, bydd cymunedau’n cael dylanwadu ar gynigion datblygu.  Mae nifer o welliannau technegol i’r system rheoli datblygu hefyd wedi’u gwneud, gan ganolbwyntio ar y broses ceisiadau cynllunio a’r system orfodi i’w gwneud yn fwy effeithlon ac effeithiol.

Bydd y darpariaethau sy’n weddill yn y Ddeddf yn cael eu rhoi ar waith dros y ddwy flynedd nesaf.  Byddaf yn ymgynghori ar gynllun dirprwyo cenedlaethol i sicrhau y penderfynir ar geisiadau tebyg naill ai gan bwyllgor cynllunio neu eu bod yn cael eu dirprwyo i swyddogion yn gyson trwy Gymru.  Byddaf yn ymgynghori hefyd ar newidiadau i strwythur pwyllgorau cynllunio, gwelliannau i’r system apelau cynllunio ac ar ddiwygio’r broses ar gyfer trin ceisiadau cynllunio a cheisiadau ynghylch meysydd trefi a phentrefi.

Ar ôl darparu’r ddeddfwriaeth angenrheidiol i roi llawer o’r gwelliannau sy’n deillio o’r Ddeddf ar waith, rwy’n pwyso ar Awdurdodau Cynllunio Lleol, y diwydiant datblygu, ymgyngoreion statudol a phartneriaid eraill i weithio gyda fi i sicrhau’r holl fuddiannau y gallai system gynllunio bositif a chydnerth sy’n galluogi esgor arnynt.

Ceir mwy o wybodaeth am ein ffordd gydgysylltiedig a chymalog o roi’r gwelliannau ar waith ac o gefnogi is-ddeddfwriaeth y Ddeddf yn ‘Cynllun Gweithredu Cynllunio Cadarnhaol’ (Rhagfyr 2015).  Diweddarwyd y ddogfen honno (Ebrill 2016) i roi mwy o fanylion yr hyn sydd wedi’i wneud i roi’r Ddeddf ar waith.  I weld y ddwy ddogfen, cliciwch ar ddolen atodedig:

Bydd y gwaith i wella deddfwriaeth gynllunio yng Nghymru yn parhau.  Mae’n dda gennyf weld bod Comisiwn y Gyfraith yn cynnal ymgynghoriad cychwynnol ar y syniadau cyntaf ar gyfer cod cynllunio ar wahân i Gymru sy’n canolbwyntio ar graidd y system gynllunio – llunio cynlluniau a rheoli datblygiad.

Mae’r papur ymgynghori ar gael ichi i’w lawrlwytho o wefan Comisiwn y Gyfraith http://www.lawcom.gov.uk/project/planning-law-in-wales/.  Unwaith y daw’r ymgynghoriad i ben, bydd Comisiwn y Gyfraith yn llunio cynigion manwl ynghylch ffurf a chynnwys darn cychwynnol o ddeddfwriaeth gynllunio sydd wedi’i chydgrynhoi ar gyfer Cymru y gellir ei gyflwyno nes ymlaen yn y Cynulliad hwn.