Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae llifogydd a achosir gan ddŵr wyneb yn broblem ddifrifol ac yn un o brif achosion llifogydd mewn cartrefi ar draws Cymru. Gall yr effaith ar ddinasyddion a chymunedau fod yn drychinebus ac mae'r gost i economi Cymru yn sylweddol. Mae'n hymrwymiad i reoli dŵr yn well yn ein hamgylchedd yn sylfaen hanfodol inni fedru sicrhau ffyniant i bawb a chyflawni'n nodau llesiant hirdymor ar gyfer Cymru.

Ein bwriad yw sicrhau bod dŵr wyneb o ddatblygiadau newydd yn cael ei reoli yn unol ag arferion da, gan ddefnyddio'r dull draenio cynaliadwy (SuDS). Bydd hynny'n fodd i sicrhau bod systemau draenio cadarn, a fydd yn esgor ar nifer o fanteision o ran ansawdd dŵr, o ran lleihau perygl llifogydd, amwynder, llesiant a bioamrywiaeth, yn cael eu gosod ar gyfer pob datblygiad newydd, a hynny mewn ardaloedd trefol a gwledig fel ei gilydd.

Ar hyn o bryd, mae rhyw 163,000 o adeiladau yng Nghymru mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb ac mae'r peryglon hynny’n cynyddu oherwydd y newid yn yr hinsawdd ac o ganlyniad i drefoli. Amcangyfrifir bod llygredd a difrod i'r amgylchedd a achosir gan lifogydd dŵr wyneb yn costio rhyw £60-130 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Gall SuDS arwain at leihad o hyd at 30% yn y difrod a achosir gan lifogydd.

Mae SuDS o ansawdd da (megis gwlyptiroedd, pantiau, pyllau dŵr a llystyfiant) yn gallu helpu i greu mwy o fannau gwyrdd ac i ddarparu cyfleusterau cymunedol lle gall pobl ddod ynghyd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod darparu mannau a chyfleusterau o'r fath yn ffordd dda o atal afiechyd meddwl ac o wella llesiant meddyliol. Mae astudiaethau'n awgrymu hefyd fod pobl sy'n byw’n nes at fannau gwyrdd o ansawdd da yn fwy tebygol o wneud mwy o weithgarwch corfforol, yn fwy tebygol o ddefnyddio mannau o'r fath, ac o wneud hynny'n amlach.

Yn ôl canfyddiadau astudiaeth ymchwil ar ddefnyddio SuDS yng Nghymru, a gyhoeddwyd gennym ym mis Chwefror 2017, mae'r costau cyfalaf sy'n gysylltiedig â defnyddio SuDS ar ddatblygiadau newydd yn is na'r costau cyfalaf sy'n gysylltiedig â systemau traddodiadol o bibellau draenio. Roedd y dystiolaeth yn dangos hefyd fod costau gweithredol a chostau cynnal a chadw yn tueddu bod yn is ar gyfer SuDS.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mater gwirfoddol yw defnyddio SuDS ar ddatblygiadau newydd. Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Safonau Cenedlaethol anstatudol (Safonau ar gyfer SuDS) a argymhellir ar gyfer SuDS yng Nghymru . Mae'r rhain yn darparu egwyddorion a chanllawiau ar gyfer dylunio, adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw SuDS ar ddatblygiadau newydd ond, er hynny, mae nifer y SuDS o ansawdd da, sy'n cydymffurfio â'r Safonau, yn parhau'n isel. Roedd hwn yn un o ganfyddiadau allweddol ymchwil  a gyhoeddwyd gennym ym mis Ionawr 2017 ac a ddaeth hefyd i'r casgliad fod angen cychwyn Atodlen 3 er mwyn sicrhau SuDS da ar ddatblygiadau newydd.

Er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael chwarae rhan lawn wrth inni fynd ati i ddatblygu'n cynigion, gwnaethom sefydlu Grŵp Cynghori ar SuDS. Mae'r grŵp hwnnw wedi bod yn fodd i gael cymorth gwerthfawr oddi wrth nifer o sectorau, gan gynnwys llywodraeth leol, ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth, a sefydliadau amgylcheddol anstatudol. Mae hefyd wedi cynnwys cynrychiolwyr sefydliadau proffesiynol a defnyddwyr.  

Buom yn ymgynghori drwy gydol yr haf ar Gweithredu Systemau Draenio Cynaliadwy ar Ddatblygiadau Newydd, gan geisio barn ar sut i annog mwy i ddefnyddio SuDS ar ddatblygiadau newydd. Yn benodol, buom yn trafod cychwyn Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, sy'n sefydlu trefn gymeradwyo a mabwysiadu mewn awdurdodau lleol, sef y corff cymeradwyo SuDS (y SAB), ynghyd â Safonau gorfodol ar gyfer Draenio Cynaliadwy. Dangosodd ein hymgynghoriad fod cefnogaeth gref o blaid cychwyn Atodlen 3. Mae hyn yn cynnig ffordd i awdurdodau lleol gymeradwyo a mabwysiadu SuDS, gan bennu mai nhw yw'r "corff cymeradwyo SuDS" (y SAB), ac mae hefyd yn cyflwyno Safonau SuDS gorfodol. Cyfeiriwyd yn nifer o'r ymatebion at amryfal fanteision SuDS a'r cysylltiadau rhyngddynt a'r nodau llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac â chyflawni'r blaenoriaethau o ran atebion sy'n seiliedig ar natur yn unol â'n Polisi Adnoddau Naturiol.

Mae'n hymateb ni fel Llywodraeth yn rhoi ystyriaeth i'r sylwadau a ddaeth i law mewn ymateb i'r ymgynghoriad. Er mwyn gweithredu gofynion Atodlen 3, byddwn yn mynd ati bellach i ymgynghori ar yr offerynnau statudol drafft a'r safonau statudol ar gyfer SuDS, sef y fframwaith y byddwn yn ei ddefnyddio i gyflwyno'r Atodlen honno. Bydd yr ymgynghoriad pellach hwn yn dechrau ar 16 Tachwedd 2017 ac yn dod i ben ar 15 Chwefror 2018. Byddwn yn mynd ati wedyn i ddadansoddi ac i gyhoeddi'r ymatebion cyn symud ymlaen at y broses o graffu ar yr offerynnau statudol yn y Cynulliad.

Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad pellach hwnnw, rydym yn disgwyl i’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno yn y Cynulliad ym mis Mai 2018, gan ddod i rym ymhen chwe mis. Yn y cyfamser, mae'r Grŵp Cynghori ar SuDS wedi cytuno i gydweithio gyda ni ar y mater hwn a byddwn yn mynd ati hefyd i ymgynghori'n ehangach â rhanddeiliaid. Rwyf yn ddiolchgar i'r holl randdeiliaid ac yn arbennig i aelodau'r Grŵp Cynghori am eu hymroddiad i'r gwaith o weithredu Atodlen 3 ar ddatblygiadau newydd.

Gweithredu Systemau Draenio Cynaliadwy ar Ddatblygiadau Newydd: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/gweithredu-systemau-draenio-cynaliadwy-ar-ddatblygiadau-newydd-rheolau-drafft-safonau


Sustainable Drainage Systems on New Developments, Analysis of Evidence, including SuDS costs and benefits of SuDS construction and adoption, Environmental Policy Consulting, Ionawr 2017. http://gov.wales/topics/environmentcountryside/epq/flooding/drainage/?lang=cy