Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Heddiw rwy'n lansio Rhwydwaith Gogledd Cymru.
Bydd gwasanaethau metro yn ganolog iddo a heddiw rwy'n cadarnhau’r camau yr ydym yn eu cymryd i’w darparu.
Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru yn rhaglen waith hynod uchelgeisiol a thrawsnewidiol i gysylltu cymunedau'n well, gyda mwy o wasanaethau rheilffyrdd a bysiau, gorsafoedd newydd, llwybrau trafnidiaeth newydd, trenau newydd, bysiau newydd a thechnoleg newydd.
Wrth galon y rhaglen fydd gwasanaethau metro Gogledd Cymru. Bydd yn trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus ardal Mersi-Dyfrdwy ar draws ffiniau, gan gynnwys gwasanaethau ar ffurf metro ar brif lein y Gogledd a chysylltiad rheilffordd uniongyrchol newydd rhwng Wrecsam a Lerpwl.
Mae'r weledigaeth ar gyfer y rhaglen yn cael ei ategu gan gynllun cyflawni dros y tymor byr (0-12 mis), y tymor canolig (1-3 a 5 mlynedd) a’r tymor hir (hyd at 2035 a thu hwnt).
Rwyf wedi ail-lunio cyllidebau Trafnidiaeth i ddarparu digon o fuddsoddiad i gyflawni blaenoriaethau uniongyrchol, gan gynnwys cyflawni'r cynnydd o 50% mewn gwasanaethau ar draws prif linell Gogledd Cymru i fis Mai o fis Rhagfyr y flwyddyn nesaf, cynyddu gwasanaethau trên rhwng Wrecsam a Chaer 100% o fis Mai nesaf, cyflwyno technoleg Talu wrth Fynd yng Ngogledd Cymru o'r flwyddyn nesaf ymlaen, archwilio dichonoldeb gorsaf reilffordd brawf newydd ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a chronfa arloesi trydaneiddio newydd.
Er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflwyno, mae Bwrdd Llywio Rhwydwaith Gogledd wedi'i sefydlu sy'n cynnwys Trafnidiaeth Cymru, Network Rail, Uchelgais Gogledd Cymru, Growth Track 360, Dinas-ranbarth Lerpwl, Cyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru a'r Adran Drafnidiaeth; ac rwy'n ei gadeirio'n bersonol i helpu i ysgogi cynnydd.
Rwyf hefyd wedi derbyn gwahoddiad gan y Meiri Metro Steve Rotherham ac Andy Burnham i ymuno â'r Bwrdd sy'n goruchwylio'r Arc Ogleddol, a fydd yn ymestyn o Gaergybi i Hull.
Gellir dod o hyd i fanylion y weledigaeth ar gyfer y rhaglen a'r cynllun cyflawni ar gyfer Rhwydwaith Gogledd Cymru yma: trc.cymru/RhydwaithGogleddCymru/TaflenWybodaeth
