Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n cyhoeddi'r datganiad hwn i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau am ein cefnogaeth barhaus ar gyfer Gwasanaethau Cynghori.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi darparwyr cyngor er mwyn sicrhau bod cyngor diduedd ar gael i bobl, yn rhad ac am ddim, ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys dyledion, rheoli arian, tai a budd-daliadau lles.

Fel y cofiwch, o bosibl, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 2 Hydref 2019 i gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru'n darparu cyllid grant o £8.04 miliwn drwy'r Gronfa Gynghori Sengl newydd ar gyfer gwasanaethau cyngor lles cymdeithasol yn 2020.

Roedd hyn yn un o nifer o ddatblygiadau i gynyddu'r gwasanaethau sydd ar gael i'r bobl sydd eu hangen. Rwyf bellach yn gallu cyhoeddi datblygiad llwyddiannus arall, sef sefydlu rhwydweithiau cynghori rhanbarthol ar draws Cymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru rôl strategol arweiniol o ran cynyddu mynediad i wasanaethau cynghori, gan sicrhau bod darparwyr yn gweithio'n agos â'i gilydd er mwyn helpu pobl sy'n wynebu nifer o broblemau lles cymdeithasol a bod y cyllid amrywiol sy'n cefnogi'r gwasanaethau hyn yn dod â'r budd mwyaf posibl i bobl Cymru. Nodir yr uchelgeisiau hyn yn y Cynllun Gweithredu Gwybodaeth a Chyngor ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd yn 2016.

Fodd bynnag, ni all Llywodraeth Cymru gyflawni'r uchelgeisiau hyn ar ei phen ei hun. Gellir ond gwneud hynny os yw darparwyr cyngor, cynllunwyr a chyllidwyr yn cydweithio i gynnig gwasanaethau cydgysylltiedig ac i ddiwallu anghenion nas diwallwyd.

Un o'r camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu Gwybodaeth a Chyngor yw gweithio mewn partneriaeth ar lefel leol a rhanbarthol. Felly, rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod chwech o Rwydweithiau Cynghori Rhanbarthol bellach wedi'u sefydlu ar draws Cymru yn dilyn cyfnod o ymgysylltu a chydgynhyrchu â darparwyr, cynllunwyr a chyllidwyr.

Mae gan bob Rhwydwaith Cynghori Rhanbarthol Gadeirydd a grŵp llywio annibynnol ac mae'r aelodau'n cynnwys rhanddeiliaid lleol a rhanbarthol. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r rhwydweithiau drwy gynnig amser staff a chyllid ar gyfer digwyddiadau rhanbarthol a chyfathrebu rheolaidd.

Yn ogystal, mae gwefan yn cael ei chreu er mwyn hwyluso mynediad at gyfeiriadur cenedlaethol o wasanaethau cynghori.

Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd y Rhwydweithiau Cynghori Rhanbarthol yn ymgymryd â thasgau i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau rhanbarthol a nodwyd yn eu hardaloedd. Bydd y rhain yn cynnwys:

  • Mapio'r angen am gyngor a'r ddarpariaeth, a nodi bylchau.
  • Creu rhwydweithiau atgyfeirio rhwng pob gwasanaeth cynghori.
  • Cyfuno profiadau er mwyn nodi'r hyn sydd wrth wraidd problemau cyffredin.
  • Rhannu arferion gorau a helpu ei gilydd i ddarparu cyngor o ansawdd.

Nid oes arwydd o leihad yn y galw am wasanaethau cynghori yng Nghymru. Mae'n bwysicach nag erioed erbyn hyn bod pawb sy'n ymwneud â gwasanaethau cynghori'n cydweithio i gynnig y cymorth gorau posibl i'r rheini sy'n wynebu argyfwng. Bydd y Rhwydweithiau Cynghori Rhanbarthol newydd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod gennym sector cyngor lles cymdeithasol lle caiff adnoddau eu defnyddio mor effeithiol â phosibl a lle mae darparwyr o ansawdd yn darparu gwasanaethau cydgysylltiedig sy'n sicrhau canlyniadau cynaliadwy i'r rheini y mae arnynt angen cyngor.

Atodlen 1

Rhwydwaith Cynghori Rhanbarthol Ardal Awdurdod Lleol Cadeirydd y Rhwydwaith
Gogledd Cymru Sir Ddinbych
Conwy
Sir y Fflint
Gwynedd
Ynys Môn
Wrecsam
Gwyneth Millington
Prif Swyddog Gweithredol Cyngor ar Bopeth Conwy
Canolbarth a Gorllewin Cymru Sir Gaerfyrddin
Ceredigion
Sir Benfro
Powys
Stuart Chadbourne
Prif Swyddog Gweithredol Cyngor ar Bopeth Powys
Abertawe Castell-nedd Port Talbot
Castell-nedd Port Talbot
Abertawe
Yr Athro Richard Owen
Cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith Abertawe
Cwm Taf Morgannwg Pen-y-bont ar Ogwr
Merthyr Tudful
Rhondda Cynon Taf
Y Cynghorydd Chris Davies
Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cardiff and Vale Caerdydd
Bro Morgannwg
Jane Clay
Prif Swyddog Gweithredol Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro
Gwent Blaenau Gwent
Caerffili
Sir Fynwy
Casnewydd
Torfaen
Craig Lane
Prif Swyddog Gweithredol Cyngor ar Bopeth Casnewydd

Atodlen 2

Cwmpas y gwasanaethau cynghori a gynigir
Lefel o gyngor Pynciau
  • Gwybodaeth
  • Canllawiau
  • Cyngor
  • Cyngor gyda gwaith achos
  • Gwaith achos arbenigol
  • Buddiannau lles
  • Arian a dyled
  • Tai
  • Cyflogaeth
  • Gwahaniaethu
  • Addysg
  • Mewnfudo