Neidio i'r prif gynnwy

Nerys Evans AS, Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae rhybudd Coch prin ynghylch gwres eithafol wedi'i gyhoeddi ar gyfer rhannau o Gymru ddydd Mercher a dydd Iau, ac rwyf am bwyso ar bobl Cymru i roi sylw gofalus i'r rhybudd difrifol hwn a'r camau ychwanegol y mae angen inni i gyd eu cymryd i ofalu amdanom ni ein hunain ac am eraill.

Gall salwch sy'n gysylltiedig â gwres effeithio ar unrhyw un, beth bynnag eu hoedran neu eu hiechyd - ond i bobl hŷn, babanod a phlant ifanc iawn y mae'r risgiau mwyaf, sy'n gallu dirywio'n gyflym mewn tymheredd uchel. 

Rhaid inni i gyd ddilyn cyngor iechyd y cyhoedd, yfed digon, osgoi bod y tu allan yn ystod adeg boethaf y dydd os yw'n bosibl, a sicrhau bod gofalu am bobl sy'n agored i niwed yn flaenoriaeth. 

Gallai cymryd ychydig funudau i gael gair gyda theulu, ffrindiau a chymdogion achub bywydau. 

Gallai fod yn demtasiwn manteisio ar lynnoedd neu afonydd i oeri, ond mae sioc dŵr oer yn berygl gwirioneddol wrth neidio i mewn. Ni ddylech fyth nofio mewn cronfa ddŵr. Os cewch eich hun mewn trafferth yn y dŵr, cofiwch y cyngor hwn a all achub eich bywyd: #ArnofioIFyw. 

Rydym wedi rhoi trefniadau cydlynu ymateb Llywodraeth Cymru ar waith i fonitro a rheoli effeithiau'r gwres difrifol ar draws y meysydd rydym yn gyfrifol amdanynt, gan weithio'n agos gyda Fforymau Gwydnwch Lleol a chyda Llywodraeth y DU.  Byddwn yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf yn gyson.

Mae'r GIG a sefydliadau gofal cymdeithasol wedi rhoi cynlluniau tywydd heriol ar waith ar lefel leol. Bydd unrhyw gyngor i gleifion neu effeithiau ar wasanaethau yn cael eu rhannu'n uniongyrchol gan ymddiriedolaethau neu fyrddau iechyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i gyfleu cyngor tywydd poeth i ddarparwyr gofal, ar sail cyngor iechyd y cyhoedd. 

Rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliadau perthnasol i hyrwyddo negeseuon iechyd.

Mae cyngor ar ddelio â gwres eithafol hefyd wedi'i roi i ysgolion a lleoliadau gofal plant.  Mater i benaethiaid unigol neu awdurdodau lleol o hyd yw unrhyw benderfyniad i gau ysgolion. Ym mhob achos, diogelwch y plant a'r staff fydd y brif flaenoriaeth. 

Er nad oes uchafradd tymheredd wedi'i nodi mewn deddfwriaeth iechyd a diogelwch, rydym yn annog cyflogwyr i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau tymheredd cyfforddus, asesu'r risgiau i weithwyr a chymryd camau i amddiffyn staff sy'n arbennig o agored i effeithiau tymheredd uchel.

Rwyf am roi sicrwydd bod adnoddau dŵr Cymru mewn sefyllfa gref ar hyn o bryd ac yn cael eu rheoli'n agos gan ein cwmnïau dŵr.

Mae'r gwres eithafol yn debygol o darfu ar rwydweithiau trafnidiaeth, yn enwedig rheilffyrdd, ac felly dylai pobl gynllunio ymlaen llaw a chadw llygad ar y cyngor teithio diweddaraf.

Hoffwn bwyso ar holl aelodau'r Senedd i ddefnyddio rhwydweithiau eu hetholaethau i sicrhau bod cyngor iechyd y cyhoedd yn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl.

Mae'r sefyllfa yn dal i gael ei monitro'n agos ac yn barhaus, a byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau yn ôl yr angen.