Elin Jones AS, Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad newydd rhag ardrethi annomestig ar gyfer lleoedd parcio a blaengyrtiau sy'n fannau gwefru cerbydau trydan. Bydd y rhyddhad hwn yn gymwys am y deng mlynedd nesaf, er mwyn cefnogi'r broses barhaus o gyflwyno'r seilwaith gwefru sydd ei angen i hwyluso'r trawsnewidiad i gerbydau trydan yng Nghymru.
Wrth i'r sector barhau i esblygu, mae Swyddfa Brisio CThEF wedi penderfynu, mewn rhai amgylchiadau, y dylid asesu mannau gwefru a lleoedd parcio cysylltiedig ar gyfer ardrethi annomestig o dan y fframwaith cyfreithiol presennol. Bydd y rhyddhad hwn yn gohirio'r atebolrwydd am ardrethi annomestig sy'n deillio o hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ehangu rhwydweithiau gwefru a'r angen i gyfyngu ar rwystrau buddsoddi posibl, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n cael eu gwasanaethu'n wael gan y seilwaith presennol.
Bydd lleoedd parcio a blaengyrtiau sy'n fannau gwefru cerbydau trydan yn cael rhyddhad llawn (100%) rhag ardrethi annomestig tan 31 Mawrth 2036. Yn y flwyddyn ariannol hon, byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol ddyfarnu'r rhyddhad gan ddefnyddio eu pwerau yn ôl disgresiwn. Lle bo hynny'n berthnasol, bydd y dull hwn hefyd yn galluogi rhyddhad i gael ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024.
Nid yw awdurdodau lleol yn gallu ôl-ddyddio rhyddhad yn ôl disgresiwn a ddyfarnwyd cyn 1 Ebrill 2024, oherwydd cyfyngiad hanesyddol ar eu pwerau yn ôl disgresiwn. Fodd bynnag, disgwylir i rai eiddo fod yn gymwys am Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach o ddyddiad dechrau eu hasesiad ar gyfer ardrethi annomestig.
Rwy'n bwriadu cyflwyno rheoliadau yn ddiweddarach eleni i ddarparu i'r rhyddhad barhau ar sail statudol, rhwng 2027-28 a 2035-36. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd i'r rheoliadau, bydd hyn yn rhoi sicrwydd, ac yn sicrhau'r effeithlonrwydd mwyaf, i dalwyr ardrethi ac awdurdodau lleol yn y blynyddoedd i ddod.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
