Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod y gall darparu toiledau i'w defnyddio gan y cyhoedd effeithio ar iechyd, urddas ac ansawdd bywydau pobl. Mae'r cyfleusterau hyn yn cael eu gwerthfawrogi gan drigolion lleol a chan bobl sy'n ymweld ag ardal.  Rydym yn cydnabod hefyd fod y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus gan awdurdodau lleol wedi dirywio yn y blynyddoedd diwethaf.

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi bod darpariaethau'n cael eu cyflwyno i helpu awdurdodau lleol, a darparwyr eraill, i gadw toiledau cyhoeddus sy'n sefyll ar eu pennau eu hunain ar agor heb drosglwyddo'r costau i dalwyr trethi lleol.

Cyflwynwyd Bil Ardrethi Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) yn Senedd y DU ar 18 Mehefin 2019.  Rydym yn falch o fod wedi sicrhau darpariaethau i Gymru yn y Bil hwn fel y caiff biliau ardrethi toiledau cyhoeddus sy'n sefyll ar eu pennau eu hunain eu gostwng i sero, a hynny o 1 Ebrill 2020. Bydd y darpariaethau'n gymwys i'r holl doiledau sy'n sefyll ar eu pennau eu hunain sydd ar gael i'w defnyddio gan y cyhoedd, p'un a ydynt ym mherchnogaeth cyrff cyhoeddus neu breifat neu elusennol neu'n cael eu gweithredu ganddynt. 

Bydd hyn yn lleihau'r costau i'r awdurdodau lleol a darparwyr eraill, gan eu helpu i gadw toiledau cyhoeddus yn eu cymunedau. Mae'r cam hwn yn dangos ein hymrwymiad i gadw'r gwasanaethau lleol pwysig hyn.

Byddaf yn siarad o blaid cymeradwyo’r darpariaethau hyn yn y Cynulliad ar 16 Gorffennaf.