Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cafodd adroddiad Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach: Dadansoddi’r Arolwg ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn dilyn y gwerthusiad yn 2010 o ryddhad ardrethi busnesau bach yng Nghymru.

Rhyddhad ardrethi i fusnesau bach: dadansoddiad o arolwg

Amcan Llywodraeth Cymru yw adolygu pa mor effeithiol yw cynlluniau rhyddhad ardrethi annomestig, ac ystyried y ffordd orau i sicrhau cydbwysedd rhwng y refeniw allweddol a godir, ochr yn ochr â helpu busnesau gyda’u hardrethi. Mae’r adroddiad hwn yn helpu i ystyried p’un a yw’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach wedi’i dargedu’n briodol. Fodd bynnag, mae’n amlwg y byddai angen gwneud rhagor o waith i edrych yn fanwl ar brofiadau busnesau sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach a’r pwysau ychwanegol y mae busnesau bach yn ei wynebu o ganlyniad i bandemig COVID-19.

Mae’r themâu yr edrychwyd arnynt yn cynnwys gwahanol nodweddion busnesau sy’n derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach; cymariaethau rhwng busnesau sy’n ymgymryd â gwahanol weithgareddau sy’n derbyn unrhyw fath o ryddhad ardrethi busnes, a chanfyddiadau ymhlith busnesau bach a chanolig yn gyffredinol. Roedd y canfyddiadau’n dangos bod mwyafrif y busnesau a holwyd o blaid y cynlluniau rhyddhad ardrethi, yn enwedig er mwyn sicrhau bod busnesau mewn cymunedau difreintiedig a chymunedau gwledig yn goroesi.

Un llinyn o waith yw’r ymchwil hon o fewn rhaglen ehangach sy’n edrych ar ddiwygio trethiant lleol a system cyllid llywodraeth leol yn ehangach.