Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Diben y Datganiad Ysgrifenedig hwn yw hysbysu Aelodau’r Cynulliad am lawns y Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fanwerthwyr Cymru

Rwyf eisoes wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig i gadarnhau fy ymrwymiad i ystyried potensial creu cronfa wedi’i thargedu i helpu busnesau sydd wedi dioddef oherwydd y penderfyniad i ohirio ailbrisio eiddo.

Bydd Aelodau’n deall fy mod wedi rhoi cryn bwyslais ar bolisi ardrethi busnes yng Nghymru a’i botensial fel sbardun i gael yr economi i dyfu.

Rydym felly’n cyhoeddi’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fanwerthwyr Cymru ynghyd â chronfa wedi’i thargedu i ddiwallu anghenion lleol yn sgil gohirio’r broses ailbrisio tan 2017.

Bydd y Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fanwerthwyr Cymru yn cynnig disgownt o £1,000 ar fil ardrethi busnes blynyddol pob eiddo manwerthu sy’n cael ei ddefnyddio ag iddo werth ardrethol o £50,000 neu lai ym mlwyddyn ariannol 2014-15, cyn belled ag y bodlonir y rheolau Cymorth Gwladwriaethol.
Mae’r Cynllun yn werth £11.5m ac yn ymateb i ganfyddiadau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ardrethi Busnes, sef bod y sector manwerthu’n newid ac y dylid targedu cymorth er lles y sector, yn enwedig o gofio bod y broses ailbrisio wedi’i gohirio tan 2017. 
Eiddo busnes ag iddo werth ardrethol o £50,000 neu lai ac sy’n cael ei ddefnyddio neu ei ddefnyddio’n bennaf fel eiddo manwerthu fydd yn cael elwa ar y cymorth hwn.  Eiddo fel siopau, bwytai, caffis a thafarndai.
Yn ogystal â’r disgownt hwn, rwy’n neilltuo £3.5 miliwn i awdurdodau lleol allu defnyddio’u dealltwriaeth o anghenion lleol i helpu busnesau eraill y mae’r gohiriad wedi effeithio arnyn nhw neu sy’n cyfrannu at amcanion datblygu economaidd lleol a rhanbarthol. 
Mae’r opsiwn hwn yn unigryw i Gymru ac yn rhoi help mawr ei angen i fusnesau.  Mae grantiau wedi’u cynnig i bob awdurdod lleol yng Nghymru ac rwy’n gobeithio y gwelaf nhw’n gweithredu’n gyflym er lles busnesau. 
Neilltuir arian i awdurdodau lleol i farchnata a gweinyddu’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fanwerthwyr Cymru a chymeraf gamau ar y lefel genedlaethol i godi ymwybyddiaeth.  Disgwylir i awdurdodau lleol eu hunain gysylltu â busnesau cymwys.  Bydd y mesurau hyn ynghyd â mesurau diweddar eraill fel estyn y Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach a chapio’r lluosydd ardrethi busnes yn chwistrellu arian i economi Cymru, yn hwb i swyddi ac yn annog twf.