Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r cynlluniau ar gyfer cynllun rhyddhad trosiannol i fusnesau bach sy’n cael eu heffeithio gan yr ymarfer ailbrisio ardrethi annomestig a gynhelir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.  

Bydd y cynllun £10m, a fydd ar gael o 1 Ebrill 2017 pan ddaw’r ailbrisio i effaith, yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn ychwanegol at y toriad mewn treth o £100m ar gyfer busnesau bach yng Nghymru.

Gall busnesau bach wynebu cyfran uwch o orbenion na busnesau mawr oherwydd ardrethi annomestig ac mae rhai o’r busnesau hyn hefyd yn llai abl nag eraill i addasu i gynnydd cyfnodol yn eu biliau ardrethi. Dyma’r ailbrisio cyntaf o’r fath yng Nghymru ers 2010.  

Ni fydd cyfanswm y trethdalwyr a fydd yn gymwys am Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach yn newid rhyw lawer o ganlyniad i’r ymarfer ailbrisio hwn. Bydd hanner yr holl drethdalwyr yn dal i dalu dim ardrethi a bydd 20,000 o drethdalwyr eraill yn gymwys am ryddhad graddol.  

Fodd bynnag, bydd cymhwysedd rhai busnesau ar gyfer Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach yn cael ei effeithio gan gynnydd yn eu gwerthoedd ardrethol yn dilyn yr ailbrisio. Gallai unrhyw gynnydd yn sgil yr ailbrisio mewn atebolrwydd i dalu ardrethi fod yn anodd i’r trethdalwyr hyn ei reoli, yn enwedig y rheini a oedd yn gymwys cyn hyn am ryddhad o 100% ac nad ydynt yn gymwys mwyach am unrhyw gymorth.

I ddiogelu’r trethdalwyr hyn, byddaf yn gosod rheoliadau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol i gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi. Bydd hyn yn helpu’r trethdalwyr hynny nad ydynt yn gymwys mwyach, wedi i’w gwerthoedd ardrethol gynyddu yn sgil yr ailbrisio, am yr un swm o Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach.
Bydd y cynllun yn helpu’r trethdalwyr hyn drwy gyflwyno unrhyw gynnydd yn y swm y bydd rhaid iddynt dalu yn raddol, a hynny dros gyfnod o dair blynedd. Bydd hyn yn rhoi cymorth ychwanegol i fwy na 7,000 o drethdalwyr.

I symleiddio’r gwaith o weinyddu’r cynllun hwn, ac i sicrhau na fydd unrhyw drethdalwr yn cael ei effeithio’n anffafriol oherwydd bod y rhyddhad hwn yn cael ei ddarparu, bydd yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Mae hyn mewn cyferbyniad â chynlluniau rhyddhad trosiannol hunangyllidol, fel yr un sydd ar waith yn Lloegr ar hyn o bryd. Mae cynlluniau o’r fath yn cyfyngu ar gynnydd mewn atebolrwydd drwy roi cap ar ostyngiadau mewn atebolrwydd i’r trethdalwyr hynny y mae eu gwerthoedd ardrethol yn gostwng yn dilyn yr ailbrisio. Nid wyf o’r farn y byddai dull o’r fath yn deg o ystyried mai diben yr ailbrisio yw ailddosbarthu’r atebolrwydd i adlewyrchu amodau’r farchnad ar y pryd.

Drwy gyflwyno’r rhyddhad hwn, bydd mwy na thri chwarter yr holl drethdalwyr yn cael rhyw fath o doriad mewn treth ar gyfer talu eu biliau treth yn 2017-18. Drwy’r cynllun rhyddhad trosiannol hwn, Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach a rhyddhadau gorfodol a rhyddhadau yn ôl disgresiwn eraill, bydd £200m o gymorth ariannol yn cael ei ddarparu i drethdalwyr.

Ynghyd â’r cyhoeddiad hwn, mae ymgynghoriad technegol yn gofyn am farn ar yr ystyriaethau ymarferol a gweithredol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r rhyddhad trosiannol arfaethedig hwn wedi cael ei gyhoeddi. Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael yn:

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/rhyddhad-trosiannol-i-fusnesau-bach-fydd-yn-cael-eu-heffeithio-gan-ailbrisio-ardrethi




Nodyn Technegol

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cyhoeddi Rhestr Ardrethi Ddrafft ar gyfer 2017 ar ei gwefan ar 30 Medi. Gan ddefnyddio’r lluosydd dros dro ar gyfer 2017-18 (0.499), bydd trethdalwyr yng Nghymru yn gallu amcangyfrif eu biliau ar gyfer y flwyddyn nesaf.