Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn ddiweddaru’r Aelodau’r am yr hyn sy’n cael ei wneud i roi darpariaethau Newid Hinsawdd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) ar waith a nodi’r camau nesaf y byddaf yn eu cymryd.

Mae darpariaethau newid hinsawdd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn flaenoriaeth fawr imi dros y ddwy flynedd nesaf.  Rwyf wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda’m cyd-aelodau o’r Cabinet i danlinellu’r angen am weithredu parhaus ar draws Lywodraeth Cymru.  Rwyf wedi sefydlu Rhaglen Ddatgarboneiddio draws-Lywodraethol gyda’r holl brif adrannau’n aelodau ohono i fynd â’r gwaith hwn yn ei flaen dros dymor nesa’r Llywodraeth.  Mae’r Rhaglen yn canolbwyntio ar roi gofynion y Ddeddf ar waith, sef:

  • Diffinio pa allyriadau sy’n cael eu cyfrif yn y cyfrif Cymreig ac edrych pa fecanweithiau a ddefnyddir; 
  • Gosod y llwybr ar gfyer datgarboneiddio yng Nghymru, gan gynnwys gosod targedau interim (ar gyfer 2020, 2030 a 2040) a’r ddwy gyllideb garbon gyntaf (ar gyfer 2016-2020 a 2021-25);
  • Penderfynu sut y bydd ein Cynllun Cyflawni cytûn ar gyfer ein cyllideb carbon gyntaf (2016-2020) yn ein helpu i daro’n targedau ar gyfer lleihau allyriannau
Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi’r ddeddfwriaeth hon ar waith, gan ddefnyddio’r dystiolaeth gadarnaf, hynny er lles ein ffyniant yn y dyfodol.  I sicrhau hynny, rwyf wedi ysgrifennu at Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd (UKCCC), ein Corff Cynghori annibynnol.  Bydd y Pwyllgor yn rhoi cyngor imi i sicrhau ein bod yn drylwyr iawn wrth bennu’n targedau ac wrth gyflawni’r gofynion.

I’w helpu i baratoi’r cyngor ar sut y dylem gyfrif ein hallyriadau yng Nghymru, mae’r UKCCC yn gwneud Cais am Dystiolaeth  yr wythnos hon. Dyma gyfle penigamp i bartïon â diddordeb roi tystiolaeth all effeithio ar gyngor yr UKCCC i Lywodraeth Cymru.  Rwy’n pwyso ar randdeiliaid i ymateb i’r cais a fydd ar agor hyd ganol dydd, 6 Chwefror 2017.  

Caiff y cyngor ei roi inni o gwmpas Gwanwyn 2017 a bydd yn ein helpu i ddewis sut i gyfri’r allyriadau.  Bydd y dewis hwnnw’n dylanwadu ar ein targedau interim a’n cyllidebau carbon. 

Yr un pryd, rwyf wrthi’n caffael model i’n helpu i osod llwybr datgarboneiddio uchelgeisiol ond realistig a set gadarn o bolisïau a chynigion i wireddu’n hamcanion.  Bydd yr UKCCC yn rhoi eu cyngor ynglŷn â hyn. 

Yn fuan ar ôl gosod y Rheoliadau ddiwedd 2018, byddwn yn cyhoeddi ein Cynllun Cyflawni Carbon Isel, a fydd yn nodi’r camau y bydd angen eu cymryd i gyflawni’r gyllideb garbon gyntaf.  Dros y 18 mis nesaf, byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth a chyda’n rhanddeiliaid allanol, i glustnodi’r polisïau a’n cynigion y byddwn yn eu haddasu i gyflawni’n cyllideb carbon gyntaf. 

Tan y caiff y targedau a’r cyllidebau eu pennu, byddwn yn defnyddio targedau’r Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd i dracio’r gwaith datgarboneiddio ar draws sectorau.  Bydd hynny’n sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’n hallyriannau yn y tymor byr cyn inni benderfynu ar ein fframwaith deddfwriaethol tymor hir. 

Byddaf yn rhoi manylion unrhyw ddatblygiadau ichi ar ôl imi gael cyngor gan yr UKCCC.