Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi 

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rydym yn cymryd cam arall ar y daith i sicrhau hawliau plant wrth i ail ran Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 ddod i rym.  

Ym mis Ionawr 2011, pan basiwyd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 gan Aelodau'r Cynulliad, roedd yn ddatganiad clir bod Llywodraeth Cymru'n mynd i symud ymlaen â'r agenda hawliau plant. O heddiw ymlaen, mae'r Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) wrth weithredu unrhyw rai o'n swyddogaethau. Mae'r ddyletswydd hon yn un uchelgeisiol, ond yn un hanfodol ar gyfer sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feithrin diwylliant o fewn y Llywodraeth sy'n parchu, hyrwyddo ac yn amddiffyn hawliau plant.

Rydym eisoes wedi gweld effaith sylweddol y Mesur, ar Strategaeth Gofalwyr Cymru er enghraifft, a'r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru).

Rydym eisoes wedi gweld bod y Mesur wedi cael effaith fawr.  Mae wedi arwain at Lywodraeth Cymru’n gweithio i ddatblygu canllaw statudol newydd ar ddiogelwch y llwybrau cerdded i ysgol gan roi mwy o bwyslais ar ddiogelu yn ogystal ag ar farn plant a phobl ifanc.

Cafodd y Mesur effaith uniongyrchol hefyd yng nghamau deddfwriaethol olaf Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 arloesol, lle penderfynwyd ar welliannau i gryfhau effaith yr UNCRC.  Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei safbwynt y dylai plant cymwys gael dewis cynrychiolydd i fynegi’u caniatâd o ran rhoi organau. 

Er mwyn cael llwyddiant o'r fath, mae'n hanfodol cael trefniadau a phrosesau clir yn eu lle fel y gall pawb gydweithio i gyflawni'r nod yr ydym yn ei rhannu. Mae'r trefniadau a'r prosesau hyn wedi'u gosod yn ein Cynllun Hawliau Plant 2014. 

Wrth i ni barhau i dorri tir newydd, rydym wedi defnyddio'r gwersi a ddysgwyd ers y Cynllun Hawliau Plant cyntaf a gymeradwywyd gan y Cynulliad yn 2012. Mae'n rhanddeiliaid wedi cyfrannu'n helaeth at y gwaith o adolygu'r Cynllun, ac wedi bod yn gyfeillion sy'n barod i'n herio ac i ddweud eu barn fel arfer. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi rhoi eu hamser a rhannu eu harbenigedd, yn arbennig y plant a'r bobl ifanc.

Rydym wedi gwrando ar yr adborth ac o ganlyniad wedi gwneud newidiadau sylweddol gan arwain at Gynllun llawer cryfach, â threfniadau clir a phrosesau cadarn a fydd yn golygu ein bod yn atebol.

Sefydlwyd proses glir i'n helpu ni a'n swyddogion i roi sylw dyledus i'r CCUHP, gyda chymorth nifer o adnoddau ac offer. Rwy'n ymfalchïo'n arbennig yn y ffordd arloesol a chreadigol yr ydym wedi prif ffrydio CCUHP i'r prosesau hyn.

Yr adborth cryfaf a ddaeth i law oedd y dylai'r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant fod ar gael i'r cyhoedd, i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd. Rwy'n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi ymateb i hyn, gyda phroses glir ar gyfer cyhoeddi'r Asesiad.

Mae'r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i ni gynhyrchu adroddiad ar gydymffurfiaeth bob 5 mlynedd, ond rydym wedi edrych eto ar y cylch o adroddiadau ac wedi ymrwymo i gynhyrchu adroddiad canol tymor ar gydymffurfiaeth, i'w gyhoeddi bob 2.5 mlynedd. Bydd yr adroddiad canol tymor yn rhoi cyfle i ni edrych ar effeithiolrwydd y trefniadau yn y Cynllun, a'r ffordd yr ydym yn eu rhoi ar waith.

Roedd angen llawer o waith caled i gyflwyno'r Cynllun Plant newydd, ac fe ddysgwyd nifer o wersi. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl fewnbwn a'r cymorth a gafwyd drwy gydol y broses, a gobeithio eich bod yn rhannu fy malchder yn yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni gyda'n gilydd hyd yma.