Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 10 Ionawr cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol), ar 16 Ionawr pasiodd y Bil ei ail ddarlleniad, ac ar 30 Ionawr cwblhaodd ei daith drwy Dŷ'r Cyffredin. Mae wedi gwneud hynny heb i asesiad effaith gael ei gyhoeddi a fyddai’n ei gwneud yn bosibl craffu’n briodol arno. Ar 16 Ionawr ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Lywodraeth y DU yn amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru, ac rydym yn cyhoeddi'r llythyr hwnnw heddiw.    

Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r Bil niweidiol a diangen hwn – niweidiol am fod y Bil yn cael ei ruthro, yn ddiffygiol o ran manylion, ac yn ymyrryd â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig; diangen am fod y Bil yn ymosodiad ar hawliau gweithwyr ac undebau llafur ac nad yw’n gwneud dim i ddatrys anghydfodau diwydiannol. Mae perygl y bydd y ddeddfwriaeth hon yn gwneud streic yn fwy tebygol yn hytrach na llai tebygol wrth i'r lle ar gyfer trafodaethau diffuant gael ei danseilio. 

Mae’r Bil yn cwmpasu nifer o wasanaethau cyhoeddus datganoledig y mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol ac yn atebol amdanynt. Os caiff ei basio, bydd y Bil yn rhoi pwerau ysgubol i Weinidog yn y DU wneud rheoliadau sy'n gosod lefelau gwasanaeth gofynnol yn ystod streiciau mewn meysydd sy'n cael eu hystyried yn rhai a ddatganolwyd yn llawn - fel iechyd ac addysg. Ni ddylai Gweinidogion y DU allu arfer pwerau o'r fath dros wasanaethau nad oes ganddynt fandad etholiadol yn eu cylch. Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am oruchwylio'r gwasanaethau hyn mewn ffordd strategol, ac maent yn atebol i Senedd Cymru am y penderfyniadau a gymerant wrth arfer eu pwerau. Nid oes gan Weinidogion y DU unrhyw rôl yn y penderfyniadau hyn ac maent wedi’u datgysylltu'n llwyr oddi wrth y swyddogaethau strategol a gweithredol y mae'r Bil hwn yn ymyrryd yn uniongyrchol â nhw.  Mae'r tresmasu di-hid hwn ar feysydd cyfrifoldeb datganoledig yn gyfystyr â diystyru'r pryderon hyn.  

Ni ymgynghorwyd cyn cyhoeddi'r Bil, gyda Llywodraeth Cymru nac undebau llafur a chyflogwyr. Cynhaliwyd y trafodaethau cyntaf gyda Llywodraeth Cymru ar yr un diwrnod ag y cyhoeddodd Gweinidogion y DU ddatganiad i'r wasg yn cyhoeddi eu bwriad. Mae'r diffyg ymgysylltu hwn cyn cyflwyno'r Bil yn annerbyniol, a gellid bod wedi’i osgoi yn gyfan gwbl.           

Rydym yn ymchwilio i’n holl opsiynau i ddiogelu Cymru a'n gwasanaethau cyhoeddus datganoledig rhag canlyniadau niweidiol a difrifol y Bil andwyol hwn. Byddwn yn gwneud rhagor o ddatganiadau cyhoeddus ar ein safbwynt dros yr wythnosau nesaf, a byddwn yn parhau i roi gwybodaeth reolaidd i Aelodau'r Senedd.