Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n ysgrifennu i roi’r diweddaraf i’r aelodau am y camau yr wyf wedi eu cymryd i gefnogi defnydd diogel a chyfrifol o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol mewn addysg.

Yn fy Natganiad Llafar ar 19 Chwefror 2013, dywedais fod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol a Chanolfan y DU ar gyfer Rhyngrwyd Fwy Diogel i sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn cael y cyngor gorau posibl ar e-ddiogelwch. Bydd Hwb, y platfform dysgu i Gymru gyfan, a lansiais i'r llynedd, yn caniatáu i ni gadw adnoddau e-ddiogelwch mewn man canolog a bydd yn helpu athrawon i godi ymwybyddiaeth o faterion e-ddiogelwch gyda rhieni a disgyblion. Drwy Hwb, rwyf am hyrwyddo diwylliant o ddinasyddiaeth ddigidol ddiogel a chyfrifol yng Nghymru.

Er mwyn i blant ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ddod yn ddinasyddion hyderus yn y byd digidol, rhaid iddynt ddeall sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel, o dan oruchwyliaeth yn ogystal ag yn annibynnol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r defnydd o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol wedi dod yn rhan annatod o’n defnydd dyddiol o’r fewnrwyd. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos plant a phobl ifanc. Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn dangos iddynt, wrth iddynt gael eu haddysg, sut i aros yn ddiogel ar-lein ac yn trosglwyddo’r neges am ba mor bwysig yw parchu pobl eraill. Nid yw’r ymarfer sy’n gyffredin ar hyn o bryd o flocio ymweliadau â safleoedd rhwydweithio cymdeithasol mewn ysgolion yn ein helpu i gyrraedd y nod hwn. Ar y llaw arall, rwy’n sylweddoli bod cyfyngiadau o’r fath yn deillio o bryderon dealladwy ynglŷn ag unigolion a allai fod yn beryglus a bwlio ar-lein. O ganlyniad, rwy’n ysgrifennu i bob awdurdod lleol yfory i ofyn iddynt weithio gyda ni ar ddull newydd, mwy cadarnhaol.

Rwy’n cefnogi’n llwyr fesurau sy’n diogelu plant.