Neidio i'r prif gynnwy

Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n rhoi Safon Renti a Thaliadau Gwasanaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-2036 (y Safon Renti) ar waith, sy'n darparu sicrwydd a sefydlogrwydd uniongyrchol i landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid ledled Cymru. Mae'r polisi hirdymor hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod tai cymdeithasol yn parhau i fod yn fforddiadwy, o ansawdd uchel ac yn ymatebol i anghenion cymunedau.

Mae'r Safon Renti wedi'i llunio drwy ymgysylltu'n helaeth â'r sector a rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), a chynrychiolwyr tenantiaid. Ochr yn ochr â'r Safon Renti, rydym hefyd yn cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddussy'n dangos cefnogaeth eang i'n cynigion i gryfhau'r fframwaith rhenti cymdeithasol. Tynnodd ymatebwyr sylw hefyd at feysydd allweddol ar gyfer datblygu pellach - gan gynnwys yr angen am fframwaith fforddiadwyedd, mwy o hyblygrwydd i gefnogi cydgyfeirio rhenti, dull casglu data gwell, a gwell tryloywder.

Mae fforddiadwyedd yn parhau i fod wrth wraidd ein polisi rhenti cymdeithasol ac rwyf wedi ymrwymo i ymgorffori hyn ymhellach drwy ddatblygu fframwaith fforddiadwyedd, a fydd yn dod â mwy o eglurder a chysondeb i arferion gosod rhenti ledled Cymru.  Rwyf wedi gwrando ar ymatebwyr ac yn cydnabod y potensial ar gyfer cydgyfeirio rhenti i gynhyrchu incwm rhenti ychwanegol a hyrwyddo mwy o gysondeb ar draws y sector. Fodd bynnag, mae cydgyfeirio yn gynhenid gymhleth, gyda goblygiadau sylweddol o safbwynt fforddiadwyedd. Dyna pam y byddwn yn cynnal dadansoddiad pellach ochr yn ochr â'n gwaith ar fforddiadwyedd i lywio gwaith i ystyried a ellid dilyn trywydd cydgyfeirio o fewn y dirwedd tai a chyllidol ehangach, a phryd a sut y gellid gwneud hynny. 

Byddwn hefyd yn parhau i symud ymlaen â gwaith cydweithredol i gryfhau cysondeb cyfathrebu ac arferion sy’n ymwneud â thaliadau gwasanaeth, gan wella tryloywder ac atebolrwydd i denantiaid. Bydd y gwaith hwn yn ategu ein hymdrechion i adeiladu ar arferion da sefydledig o ran codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ehangach o rôl rhenti, ac ehangu cyfleoedd i ymgorffori llais tenantiaid mewn prosesau gosod rhenti. Byddwn yn adlewyrchu galwadau am ddulliau gwell o gasglu data a gwell tryloywder drwy gryfhau ein mecanweithiau monitro ac adrodd, gan fanteisio ar y cyfle drwy'r cytundeb setlo rhenti ehangach a'r mentrau y cytunwyd arnynt ar y cyd a ddatblygwyd gyda Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), i gryfhau tryloywder ac atebolrwydd a gwella dysgu ac ymarfer, drwy rannu data yn well. Rydym yn croesawu ymrwymiad y sector i gynyddu tryloywder i denantiaid ac rydym yn awyddus i archwilio, mewn cydweithrediad â nifer fach o awdurdodau lleol fyddai’n gwirfoddoli, sut y gellid cryfhau hyn ymhellach, gan gynnwys drwy fabwysiadu safonau rheoleiddiol ar gyfer gwasanaethau tenantiaid.

Mae ein Safon Renti newydd yn fwy na fframwaith technegol — mae'n adlewyrchiad o'n gwerthoedd a'n gweledigaeth ar gyfer tai yng Nghymru. Mae'n cydnabod y rôl hanfodol y mae landlordiaid cymdeithasol yn ei chwarae wrth gefnogi unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru, ac mae'n ailddatgan ein hymrwymiad i weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod tai cymdeithasol yn parhau i fod yn fforddiadwy i denantiaid presennol ac yn y dyfodol, ac yn deg, yn gynaliadwy ac wedi'u gwreiddio mewn cyfiawnder cymdeithasol.