Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi’r gwaith llwyddiannus o ran datblygu safonau ansawdd diwygiedig.
Mae’r Safonau Ansawdd Awdioleg a’r Fframwaith Cyflawni newydd wedi’u hategu gan y Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Awdioleg yn y Dyfodol a lansiwyd ym mis Rhagfyr. Maent yn dwyn ynghyd safonau o bob llwybr awdioleg ac yn cynnwys prosesau archwilio ac adnoddau archwilio sydd wedi’u cynllunio mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, gan gynnwys awdiolegwyr, y trydydd sector a defnyddwyr gwasanaeth.
Byddant yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau awdioleg wedi’u diwygio wrth inni symud mwy o ofal i gymunedau lleol a gwella mynediad at wasanaethau gofal clyw i fwy o bobl.
Mae Cymru yn arwain y ffordd yn y DU o ran diwygio gofal a gwasanaethau awdioleg, a hynny wrth inni hyfforddi a grymuso ymarferwyr i weithio hyd eithaf eu trwydded a’u sgiliau. Mae ein dull gweithredu yn seiliedig ar egwyddorion gofal iechyd darbodus ac mae’n adlewyrchu ethos sy’n canolbwyntio ar y claf, gan sicrhau gofal amserol, effeithiol a theg.
Byddwn yn parhau i gydweithio i ddatblygu system flaengar, gynhwysol a chlinigol gadarn sy’n diwallu anghenion ein poblogaeth drwy ein dull gweithredu Cymunedol o’r Cychwyn.
