Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 21 Hydref 2013, cyhoeddais yr amserlen ar gyfer gwneud y set gyntaf o safonau mewn perthynas â’r Gymraeg. Rwy’n falch o’ch hysbysu bod y safonau hynny wedi’u cyhoeddi heddiw. Fel y gwyddoch, bydd Comisiynydd y Gymraeg nawr yn mynd ati nawr ddefnyddio’r safonau arfaethedig hyn yn sail i ymchwiliad safonau gyda’r awdurdodau lleol, y Parciau Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru.

Rwy’n edrych ymlaen at dderbyn adroddiad yr ymchwiliad safonau oddi wrth y Comisiynydd a fydd yn nodi prif ganfyddiadau’r ymchwiliad. Bydd y canfyddiadau hynny yn cyfrannu at y gwaith o lunio’r Rheoliadau a fydd yn pennu’r safonau eu hunain.

Rwyf wedi cytuno â Chomisiynydd y Gymraeg na fyddaf yn gwneud unrhyw sylwadau am y safonau yn ystod yr ymchwiliad.

Mae cyhoeddi’r safonau arfaethedig hyn yn gam pwysig yn y broses o wireddu'r weledigaeth a nodir yn ein strategaeth ar gyfer y Gymraeg i wella gwasanaethau Cymraeg i ddinasyddion. Bydd y safonau gweithredu hefyd yn rhoi sylfaen, yn enwedig i gyrff sector cyhoeddus, i gynyddu’r cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.