Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf heddiw yn cyhoeddi'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol sydd wedi’u diweddaru ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.

Rydym wedi gwneud rhai newidiadau pwysig i'r safonau, gan adlewyrchu'r adborth o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym y llynedd. Mae hyn yn ei dro yn ymateb i adolygiad o'r safonau a'i argymhellion, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2019. Un enghraifft o'r newidiadau yw cryfhau'r hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig a’r hyfforddiant diogelu y mae angen i staff ymgymryd ag ef mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae cofrestredig. Nodir y rhain a newidiadau pwysig eraill yn yr adran o’r canllawiau ar Newidiadau Pwysig i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol

Rydym hefyd wedi ceisio cael gwared â rhai o'r rhwystrau y mae lleoliadau gofal plant wedi dweud wrthym y maen nhw’n eu hwynebu o ran gofynion staffio, ac rydym wedi cryfhau safonau eraill â chanllawiau ychwanegol lle roedd angen mwy o eglurder. 

Rydym wedi egluro'r newidiadau yr ydym wedi'u gwneud, sut y gellir gweithredu'r rhain a'r trefniadau pontio yr ydym wedi'u rhoi ar waith i helpu i liniaru effaith y gofynion ychwanegol ar ddarparwyr.

Rhaid i bob person cofrestredig, gwarchodwr plant a darparwr gofal dydd (gan gynnwys darpariaeth chwarae mynediad agored) ar gyfer plant hyd at 12 oed roi sylw i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Y safonau mwyaf sylfaenol yw’r rhain er mwyn cofrestru i ddarparu gofal plant o ansawdd; y disgwyliad cyffredinol yw bod personau cofrestredig yn gweithio tuag at ragori ar y safonau sylfaenol hyn.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn defnyddio'r safonau hyn i arolygu lleoliadau gofal plant. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod gofal o ansawdd ar gael i blant a theuluoedd, sy'n diwallu eu hanghenion, gan gefnogi rhieni a gofalwyr i weithio, a phlant i ffynnu a datblygu. 

Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad – mae eich barn yn ein helpu ni i sicrhau bod y safonau yn parhau i fod yn addas i'r diben ac yn berthnasol. Byddwn yn adolygu'r safonau yn gyson er mwyn cefnogi darpariaeth gofal plant yng Nghymru.