Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Health Education and Improvement Wales Transition UpdateYn 2014, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad o'r buddsoddiad a wneir mewn addysg i weithwyr iechyd proffesiynol ac mewn datblygu'r gweithlu. Cafodd yr adolygiad hwnnw ei arwain gan Mel Evans, a gyhoeddodd adroddiad dilynol yn 2015, ac ynddo gwnaed nifer o argymhellion - un o'r rheini oedd sefydlu un corff i gomisiynu, cynllunio a datblygu addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithlu'r GIG yng Nghymru. Derbyniwyd yr argymhelliad hwnnw gan Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, ond dywedodd fod angen gwneud gwaith pellach i ystyried cynigion manwl ar gyfer y corff sengl newydd. Cytunodd yr Athro Robin Williams, CBE i fwrw ati â'r gwaith hwn. Cafodd yr Adroddiad hwn ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2016. Cadarnheais y byddai’r corff newydd yn cael ei sefydlu ym mis Ebrill 2018.  

Roedd yr adroddiadau a oedd yn sail i'r gwaith hwn - Adroddiad Evans ac Adroddiad Williams - yn ystyried ystod eang o weithgarwch sy'n gysylltiedig â'r agenda adnoddau a chynllunio'r gweithlu. Er bod nifer o sefydliadau ar draws Cymru yn rhan o'r trefniadau presennol, mae dau brif sefydliad yn arbennig, sef Gwasanaethau'r Gweithlu, Addysg a Datblygu (WEDS) GIG Cymru a'r Ddeoniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn gwneud rhan helaeth o'r gwaith y bydd disgwyl i’r corff newydd ei wneud. Bydd symud at gorff sengl yn creu cyfleoedd i ddatblygu cryfderau y Ddeoniaeth a WEDS, gan ddysgu o fannau eraill hefyd. Bydd y dull gweithredu yn:

Symleiddio strwythurau a phrosesau i annog mwy o gydweithio ar draws asiantaethau, gan sicrhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran cost;
Datblygu dull gweithredu sefydliadol cydlynol a phenodol all ysgogi dulliau gweithredu ar gyfer Cymru gyfan;
Cael gwared ar rwystrau artiffisial - rhai strwythurol ac ariannol;
Sicrhau'r gwerth mwyaf o fuddsoddiadau a wneir mewn addysg a hyfforddiant ym maes iechyd yng Nghymru

Dros y chwe mis diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r prif sefydliadau sy'n cymryd rhan, yn ogystal â'r sector yn ehangach, i ystyried y corff newydd a manylion sut y bydd yn gweithredu. Rwyf bellach yn gallu ddiweddaru Aelodau am y penderfyniadau rwyf wedi'u gwneud hyd yma, o ganlyniad i'r trafodaethau parhaus hyn.
Yn gyntaf, i adlewyrchu rôl y sefydliad newydd, rwyf wedi penderfynu mai ei enw fydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW).

Mae llawer o waith i'w wneud o hyd rhwng nawr a mis Ebrill 2018, ond rwy'n hyderus, gydag ymrwymiad partneriaid, y bydd HEIW mewn sefyllfa i gael effaith gadarnhaol yng Nghymru o'r flwyddyn nesaf ymlaen, ac i chwarae ei ran wrth gyflawni canlyniadau gwell i gleifion.

Swyddogaethau a chylch gwaith

Yn ei adroddiad, nododd Robin Williams set ofynnol o swyddogaethau ar gyfer y corff newydd, sef:

  • cynllunio strategol ar gyfer y gweithlu - rhoi eglurder ar sut y bydd prosesau cenedlaethol a lleol yn cydweithio;
  • comisiynu addysg - ar gyfer pob agwedd ar y gweithlu, gweithio gyda sefydliadau'r GIG i sicrhau bod adnoddau addysg a hyfforddiant ar lefel genedlaethol a lleol yn canolbwyntio ar flaenoriaethau strategol - i gynnwys addysg a hyfforddiant israddedig ac ôl-raddedig;
  • cynllunio'r rôl sefydliadol - nodi'r rolau sy'n ofynnol o fewn y GIG i fynd i'r afael â newidiadau ym modelau'r gweithlu a newidiadau i'r ffordd y caiff gofal ei ddarparu;
  • gyrfaoedd yn y GIG - gweithio gyda sefydliadau allweddol i sicrhau bod yr ystod lawn o yrfaoedd y GIG yn cael ei hyrwyddo.

Yn ogystal, gallaf gadarnhau y bydd HEIW hefyd yn gyfrifol am ddarparu dull strategol ar gyfer yr agenda ehangu mynediad - i nodi a gweithredu amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer unigolion o bob oed i gael gafael ar y rhaglenni priodol, boed hynny yn academaidd neu'n alwedigaethol, er mwyn dilyn gyrfa yn y GIG. Bydd HEIW yn sicrhau bod systemau ar waith i godi ymwybyddiaeth o yrfaoedd posibl yn y GIG, rhaglenni profiad gwaith cydlynol, cyfleoedd am brentisiaethau a mwy o lwybrau hyfforddi hyblyg.

Yn sail i'r gwaith hwn, bydd yn ofynnol i HEIW gael swyddogaeth well o ran gwybodaeth am y gweithlu a fydd yn adeiladu ar y system bresennol o fodelu'r gweithlu, sydd ar gael o fewn WEDS ar hyn o bryd.

Rwyf wedi cytuno mai dyma fydd swyddogaethau craidd HEIW. Fodd bynnag, rwyf wedi cael fy narbwyllo bod dod â WEDS a'r Ddeoniaeth ynghyd mewn corff newydd, strategol yn gyfle unigryw i wneud mwy.

Bydd HEIW yn rhoi arweinyddiaeth ar draws ystod o feysydd pwysig. Bydd hyn yn cynnwys gosod yr agenda ar gyfer datblygu ar lefel uchel, gan sicrhau bod arweinwyr y dyfodol, rhai clinigol ac anghlinigol, yn cael eu hadnabod, a'u cefnogi i wneud yn siŵr bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad i fynd i'r afael â'r heriau y byddant yn eu hwynebu, fel rhan o ddull gweithredu Tîm Cymru i ddarparu system gofal iechyd gynaliadwy yng Nghymru. Bydd hyn yn golygu cydweithio ag eraill, er enghraifft Academi Wales, i ail-ddylunio'r cynnig a wnawn ar draws Cymru drwy ein Rhaglen i Raddedigion y GIG.

Mae rhai unigolion wedi awgrymu y gallai HEIW ymgymryd â chyfrifoldebau ehangach ar gyfer datblygiad parhaus gweithwyr iechyd proffesiynol, gan hyd yn oed arwain dull cenedlaethol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. Er fy mod yn deall y cynnig hwn, mae'n bwysig i fyrddau iechyd arwain y gwaith o ddatblygu eu staff.  Bydd HEIW yn gosod y disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer datblygiad proffesiynol staff, ond y byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau fydd yn arwain ar Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus staff proffesiynol. Fodd bynnag, hoffwn sicrhau bod gan HEIW y cymhwysedd a'r gallu i ddatblygu a darparu hyfforddiant.

Bydd creu HEIW yn cynrychioli dull strategol newydd o ddatblygu gweithlu iechyd Cymru, nawr ac ar gyfer y dyfodol. Wrth gwrs, bydd angen iddo gael yr adnoddau cywir i fod yn llwyddiannus. Er enghraifft, mae hynny'n golygu dwyn ynghyd o fewn y corff y cronfeydd a ddefnyddiwn i gefnogi lleoliadau gwaith is-raddedigion meddygol a deintyddol, a'r bwrsarïau rydym yn eu cynnig i'r rheini sy'n hyfforddi, megis myfyrwyr nyrsio.  Bydd hefyd yn golygu dwyn ynghyd o fewn HEIW, y rheini sydd ar hyn o bryd yn ymgymryd â swyddogaethau tebyg mewn cyrff eraill.  Er enghraifft, mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ystyried a ddylai elfennau o Ganolfan Addysg Fferyllol Cymru i Raddedigion, Canolfan Addysg Optometrig Ôl-raddedig Cymru ac Uned Cysylltu'r GIG gael eu cynnwys o fewn HEIW o dan y trefniadau newydd.

Yn ogystal, bydd HEIW yn rhoi cyfle inni gydlynu ein gwaith ar draws Cymru gyfan i wella gwasanaethau iechyd, a byddaf yn disgwyl i'r sefydliad newydd weithio gyda chynllun 1000 o Fywydau a sefydliadau GIG Cymru i ddod â ffocws mwy strategol i'r gwaith ym maes gwella.  

Bydd HEIW yn rhoi cyngor proffesiynol i Lywodraeth Cymru ar faterion yn ymwneud â'i swyddogaethau.

Yn olaf, byddaf yn disgwyl i HEIW weithio'n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn y meysydd gwaith perthnasol i ddatblygu safbwynt integredig o anghenion y gweithlu nawr ac yn y dyfodol, ar draws y maes iechyd a’r maes gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys cymorth a datblygiad parhaus o ran cyfleoedd gyrfa ar y cyd i weithwyr yn y ddau sector.

Llywodraethu

Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) fel Awdurdod Iechyd Arbennig gan ddefnyddio pwerau a bennir yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth i gyflawni hyn mewn dau gam, gan ddechrau gyda gorchymyn a rheoliadau dros y misoedd nesaf, i'n galluogi i fwrw ymlaen i recriwtio bwrdd annibynnol a fydd yn goruchwylio gwaith y corff.

Bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau ar y broses o recriwtio aelodau ar gyfer y Bwrdd a'r Prif Weithredwr yn yr hydref. Bydd hyn yn caniatáu i drefniadau llywodraethu gael eu sefydlu cyn i'r sefydliad newydd ddechrau ar ei waith.

Gan ystyried pwysigrwydd y newidiadau hyn, a'r amserlenni, rwyf wedi penderfynu penodi Dr Chris Jones yn Gadeirydd dros dro o 1 Hydref ymlaen, i arwain y broses o sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru, yn amodol ar ewyllys y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i sefydlu HEIW. Drwy benodi Chris, bydd gan HEIW arweinydd cryf wrth i'r corff ddatblygu. Mae ganddo gyfoeth o brofiad, gan gynnwys ei rôl lwyddiannus fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a fydd yn dod i ben ddiwedd mis Medi. Rhwng nawr a'r adeg pan fydd HEIW yn cael ei sefydlu'n ffurfiol, bydd Chris yn eistedd fel aelod ar y Bwrdd Rhaglen sy'n rheoli'r cyfnod sefydlu. Cadeirydd y Bwrdd yw Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Llywodraeth Cymru. Fel aelod o'r bwrdd hwnnw, bydd Chris yn eistedd ochr yn ochr ag aelodau sydd ag amrywiol arbenigeddau, gan gynnwys cynrychiolwyr Prif Weithredwyr GIG Cymru a chyflogwyr y sefydliadau sy'n cael eu heffeithio.

Mae penodi Chris yn dangos pa mor bwysig rwy’n ystyried y flwyddyn sydd i ddod, wrth inni sefydlu HEIW, a'i le o fewn y GIG yng Nghymru. Bydd profiad Chris yn y GIG yn allweddol yn hynny o beth, gan siapio cydberthnasau newydd rhwng HEIW a byrddau ac ymddiriedolaethau GIG Cymru. Wrth gwrs, bydd angen i HEIW gael arweinyddiaeth ar gyfer y tymor hwy. Felly, byddaf yn cynnal proses penodiadau cyhoeddus lawn i sicrhau bod Cadeirydd parhaol yn cael ei benodi cyn diwedd mis Medi 2018.

Pobl

Fy mhrif flaenoriaeth dros y cyfnod sydd i ddod fydd i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r staff sy'n cael eu heffeithio gan y newid i HEIW, er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau yn cael eu deall a'u trin mewn modd sensitif. Fodd bynnag, bydd newidiadau yn digwydd i rai, ac rwyf am sicrhau bod y newidiadau hynny yn cael eu gwneud gyda staff, ac nid iddyn nhw. Wrth gwrs, bydd Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (TUPE) sy'n amddiffyn staff, yn rhoi tawelwch meddwl iddynt, a byddwn yn gweithio gyda nhw a'u hundebau llafur drwy gydol y broses.

Un o'r newidiadau pwysicaf fydd ble y bydd pobl yn gweithio. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod HEIW yn sefydliad ar gyfer Cymru gyfan, gan weithio gyda darparwyr addysg a'r sector iechyd ar draws y wlad. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn ymwybodol o leoliadau presennol staff a fydd yn dod at ei gilydd i greu HEIW - ac mae'r rhan fwyaf yng Nghaerdydd neu yn Nantgarw. Bydd y staff hyn yn hollbwysig wrth inni siapio'r sefydliad newydd, ac felly, rwyf wedi penderfynu mai yn y de-ddwyrain y dylai prif leoliad HEIW fod. Byddaf yn cyhoeddi'r union leoliad yn yr hydref.

Rhan o GIG Cymru

Bydd y sefydliad newydd yn gorff newydd o fewn teulu GIG Cymru, a bydd yn gweithio ochr yn ochr â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ar Dîm Gweithredol GIG Cymru. Cyflogeion y GIG fydd y staff, a lle y bo'n bosibl, bydd yr holl systemau a phrosesau yn rhai GIG Cymru. Bydd HEIW yn manteisio ar lwyddiant aruthrol y dull Cydwasanaethau, ynghyd â gweddill GIG Cymru.  

Bydd HEIW, drwy weithio ochr yn ochr â chyrff iechyd eraill yng Nghymru, yn gallu sicrhau newid sylweddol yn y gefnogaeth a rown i weithwyr proffesiynol. Drwy gael gwared ar rwystrau artiffisial, gall HEIW wneud mwy o waith i hybu diwylliant o gydweithio ar draws y sector iechyd yng Nghymru, gan sicrhau mai lles cleifion yw blaenoriaeth ein holl waith.
Wrth gwrs, ni allwn ganiatáu i'r cyfnod sefydlu darfu ar y gwaith arbennig sy'n cael ei wneud ar draws Cymru ar hyn o bryd i recriwtio, hyfforddi a datblygu ein gweithwyr proffesiynol. Ni fyddaf yn disgwyl unrhyw ostyngiad yn y canlyniadau da a gyflawnwyd eleni.

Ymgynghori

Credaf fod y datganiad hwn yn ein symud gam mawr ymlaen yn y gwaith o sefydlu HEIW. Fodd bynnag, mae llawer i'w wneud ac i'w ystyried o hyd rhwng nawr a mis Ebrill 2018. Bydd y sefydliad newydd ond yn llwyddo os bydd pawb yn y sector yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau hynny. Rwy'n falch bod bwrdd rhaglen, sy’n cynnwys aelodau o bob rhan o'r sector, yn goruchwylio'r cyfnod sefydlu, ac yn cael cymorth ffrydiau gwaith penodol sy'n dod â gwahanol arbenigeddau ynghyd i ymdrin â meysydd pwysig megis datblygiad sefydliadol, llywodraethiant a chyllid. Dylai'r trefniadau hyn, ynghyd â'r digwyddiadau pwysig i randdeiliaid sy'n cael eu trefnu gan fy swyddogion, sicrhau bod pobl yn gwybod beth sy'n digwydd a sut i gyfrannu at y broses.
Yn unol â'r argymhellion o'r Adroddiad Recriwtio Meddygol diweddar gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, byddaf yn cyhoeddi cynllun gweithredu ac amserlen ar gyfer sefydlu HEIW ym mis Medi eleni. Yna, byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni ynghylch ein cynigion manwl ar gyfer Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW).

Manylion Cyswllt

Gallwch gysylltu â thîm sefydlu Llywodraeth Cymru drwy:

HEIW@wales.gsi.gov.uk