Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yng Nghymru rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd gydweithio i ddarparu gwasanaethau ar gyfer eu poblogaethau.  Rwyf am sicrhau bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe y trefniadau priodol ar waith i gynllunio a darparu gwasanaethau gofal iechyd ar sail ranbarthol lle bo hynny'n briodol. Felly, byddaf yn defnyddio fy mhwerau yn unol ag Adran 12(3) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i gyfarwyddo'r ddau fwrdd iechyd i sefydlu Cyd-bwyllgor. Bydd hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau diogelwch, ansawdd a hyfywedd a chynaliadwyedd parhaus y gwasanaethau hyn. 

Rwyf i, ynghyd â Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, wedi ysgrifennu at Gadeiryddion a Phrif Weithredwyr y byrddau iechyd i’w hysbysu o fy mwriad.  Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda'r ddau fwrdd iechyd dros yr wythnosau nesaf i bennu aelodaeth a chyfansoddiad y Cyd-bwyllgor newydd, ynghyd â sicrhau bod eu cynlluniau tair blynedd yn ddigon uchelgeisiol yn eu hymrwymiad i weithio'n rhanbarthol, gydag amcanion gweithredu allweddol wedi'u pennu.

Bydd y ddau fwrdd iechyd yn cael eu dwyn i gyfrif am gyflawni'r cynlluniau hyn drwy'r Fframwaith Ansawdd, Perfformiad a Chyflawni a'r Fframwaith Goruchwylio ac Uwchgyfeirio’r GIG.