Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg) yn darparu goruchwyliaeth annibynnol, cyfeiriad strategol a chefnogaeth i ddatblygu addysg uwch (AU) cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru. Mae gweithgareddau'r Coleg yn cefnogi Strategaeth Iaith Gymraeg a Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru.

Mae'r Coleg a datblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn y sector AU yn elfen allweddol i sicrhau bod ein pobl ifanc, ar ôl gadael yr ysgol, yn parhau i ddefnyddio'r iaith ac yn cynnal a datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg i’w defnyddio mewn swydd yn y dyfodol.

Ar ôl pum mlynedd o weithredu, mae’n  amser priodol i ystyried rôl y Coleg i’r dyfodol. Heddiw, rwyf yn cyhoeddi fy mwriad i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu gweithgareddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac i wneud argymhellion ar y ffordd ymlaen. Bydd yr adolygiad yn llywio penderfyniadau polisi a chyllido ynghylch y Coleg i’r dyfodol. Fel a amlinellwyd ym maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried y berthynas rhwng y Coleg ar sector addysg bellach.

Bydd gofyn i'r grŵp gorchwyl a gorffen ystyried y canlynol a darparu adroddiad ac argymhellion i mi:

  • A yw model a strwythur presennol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yr briodol ac yn addas at y diben o hyrwyddo a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg AU o 2017 ymlaen. Os nad ydyw, dylid diffinio rôl, gweithgareddau a strwythur y Coleg (neu endid arall) i’r dyfodol, gan roi ystyriaeth lawn i werth am arian a chynaliadwyedd.
  • Beth yw’r opsiynau ar gyfer cyllido’r Coleg i’w dyfodol.
  • A yw’r berthynas rhwng y Coleg a sefydliadau AU yng Nghymru yn gynaliadwy i’r dyfodol.
  • A ddylid ymestyn cylch gwaith y Coleg i gynnwys y sector ôl-16 (addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith), ac os felly, dylid cynnig opsiynau posib ar sut i symud mlaen gyda hyn.
  • Beth yw rôl y Coleg mewn ymateb i argymhellion adolygiad Diamond a datblygiadau polisi diweddar eraill. 

Byddaf yn penodi cadeirydd yn yr wythnosau nesaf a byddaf yn sicrhau cynrychiolaeth o blith rhanddeiliaid allweddol sydd â profiad ac arbenigedd ym maes addysg uwch, addysg bellach a dysgu cyfrwng Cymraeg.