Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r datganiad hwn yn rhoi diweddariad i’r Aelodau am sefydlu Gweithrediaeth GIG Cymru. Daw i rym ar 1 Ebrill 2023 a bydd yn rhan hanfodol o'r GIG. Bydd y Weithrediaeth yn chwarae rhan bwysig i wneud ein system gofal iechyd yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch, gan arwain at ganlyniadau, profiad a mynediad gwell a mwy teg i gleifion, mwy o gysondeb, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.

Cafodd y penderfyniad i sefydlu swyddogaeth gweithrediaeth ei nodi yn Cymru Iachach. Gwnaed y penderfyniad ar sail canfyddiadau ac argymhellion Adolygiad Ansawdd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a’r Adolygiad Seneddol o Ddyfodol Hirdymor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Nodwyd yn y ddau adolygiad fod angen cryfhau craidd y system, cynyddu’r gallu i drawsnewid a bod hefyd angen symleiddio'r strwythurau presennol.

Cafodd y gwaith o greu Gweithrediaeth y GIG ei oedi dros dro yn 2020 wrth inni ganolbwyntio yn hytrach ar y pandemig. Mae'r saib hwn wedi rhoi cyfle inni ddysgu gwersi o'r pandemig a'r ffordd y gwnaeth y gwasanaethau iechyd a gofal gydweithio.

Ym mis Mai 2022, penderfynais sefydlu Gweithrediaeth y GIG yn fodel hybrid, gan roi'r cyfle inni symud yn gyflymach ac mewn modd ystwyth i greu swyddogaeth gweithrediaeth heb yr angen i drosglwyddo pwerau na throsglwyddo staff ar raddfa fawr.

Rwyf wedi bod yn glir bob amser bod rhaid ychwanegu gwerth wrth greu Gweithrediaeth y GIG ac y dylai fod yn sbardun allweddol ar gyfer gwelliannau ar draws y system gofal iechyd yn gyfan. Ni ddylai amharu ar y gofal i gleifion a dylid cynnal llinellau atebolrwydd clir i Lywodraeth Cymru ac i minnau, yn rhinwedd fy rôl fel Gweinidog.

Mae Gweithrediaeth y GIG yn dod â nifer o sefydliadau cenedlaethol y GIG sydd eisoes yn bodoli – Cydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru, Uned Gyflawni GIG Cymru, Uned Cyflawni Ariannol GIG Cymru a Gwelliant Cymru – ynghyd. Bydd y Weithrediaeth yn gweithredu fel uwch-dîm arwain pwrpasol ac yn gyson â’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth arfaethedig, gan ystyried yr agenda ar gyfer integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd y Gweinidogion yn parhau i osod blaenoriaethau, targedau, a mesurau canlyniadau ar gyfer y GIG ar ffurf Fframwaith Cynllunio'r GIG. Caiff hyn ei drosi gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru yn fandad ar gyfer Gweithrediaeth y GIG, a fydd yn nodi ei rôl, ei ffyrdd o weithio a’i swyddogaethau.

Gan weithio ar ran Llywodraeth Cymru, rwy'n disgwyl i Weithrediaeth y GIG ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cadarn – gan alluogi sefydliadau'r GIG, eu cefnogi a’u cyfarwyddo, yn ôl yr angen, i gyflawni blaenoriaethau a safonau cenedlaethol, a diogelu a gwella ansawdd a diogelwch gofal.

Bydd ei swyddogaethau craidd yn cynnwys:

  • Ansawdd, diogelwch a gwella, gan gynnwys cadarnhau’r arweinyddiaeth genedlaethol ar gyfer gwella ansawdd, diogelwch cleifion a thrawsnewid, a rhoi i’r arweinyddiaeth honno bwyslais newydd.
  • Cynllunio, gan gynnwys datblygu’r gallu cynllunio yn genedlaethol ac yn rhanbarthol a rhoi cefnogaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau cenedlaethol ochr yn ochr â darparu yn rhanbarthol ac yn lleol.
  • Goruchwylio a rhoi sicrwydd, gan gynnwys sicrhau bod trefniadau rheoli perfformiad a rheolaeth ariannol cryfach yn cael eu rhoi ar waith, ynghyd â gwella’r gallu i herio a chefnogi sefydliadau nad ydynt yn gweithredu yn ôl y disgwyl.

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr a bydd yn cael ei hadolygu a'i mireinio’n barhaus wrth i Weithrediaeth y GIG aeddfedu a chyflawni ei chylch gwaith. Mae cynlluniau yn cael eu datblygu i bennu hyd a lled y gofynion ar gyfer cyflawni swyddogaethau pellach o fewn Gweithrediaeth y GIG yn ystod 2023-24, gan gynnwys arloesi a gwerth, cynllunio'r gweithlu a chynllunio at argyfyngau.

Bydd swyddogaethau Gweithrediaeth y GIG wedi’u seilio ar y rhwydweithiau clinigol a’r rhaglenni cenedlaethol, a fydd yn fecanweithiau allweddol i gefnogi gwella, newid a chyflawni.

Mae'r rhaglenni gwella ac adfer ar gyfer gofal ac iechyd meddwl arfaethedig eisoes yn rhan o Uned Gyflawni a Chydweithrediaeth Iechyd y GIG, yn y drefn honno. Mae’r Uned Gyflawni a Chydweithrediaeth y GIG yn gweithio gyda sefydliadau’r GIG a’u partneriaid, gan gynnwys rhaglenni Cymru-gyfan, rhwydweithiau a grwpiau gweithredu, i sicrhau gwelliant cynaliadwy, trawsnewid gwasanaethau ac ymagwedd system gyfan i iechyd a gofal o fewn GIG Cymru.

Bydd trefniadau lletya ar gyfer y rhaglenni gofal sylfaenol a gofal mewn argyfwng yn cael eu hystyried ar ôl Ebrill 2023, ynghyd ag ymgorfforiad rhaglenni eraill.

Bydd y 12 mis sydd i ddod yn flwyddyn o drawsnewid ar gyfer Gweithrediaeth GIG Cymru. Rwy'n hyderus y bydd creu’r Weithrediaeth yn ein helpu i gynnig manteision gwirioneddol i bobl ledled Cymru.