Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dros y ddau ddegawd, diwethaf, mae newidiadau mawr wedi bod yn y ffordd y mae technoleg ddigidol wedi cyffwrdd â'n bywydau ni.  O fancio ar-lein i ddarparu newyddion, o'r twf yn y cyfryngau cymdeithasol i siopa a gofal iechyd, mae'r ffordd rydyn ni'n gweithio a chwarae yn parhau i drawsnewid. Fel Llywodraeth Cymru, mae'n hanfodol inni ddefnyddio ein pwerau datganoledig i gefnogi ein cymunedau, ein busnesau a'n gwasanaethau cyhoeddus i ymateb, addasu ac elwa ar y newidiadau digidol pwysig hyn.

Mae'r heriau yn cyffwrdd â phob adran yn y Llywodraeth. Drwy'r Grŵp Data a Digidol yr wyf i'n ei gadeirio, mae gen i rôl bwysig i weithio gyda Phrif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i gydlynu a chefnogi ein gwaith ar draws y portffolios i fodloni'r heriau hyn ac elwa ar gyfleoedd newydd.

Cyhoeddodd fy nghyfaill yr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Gynllun Gweithredu ar yr Economi y llynedd i helpu i baratoi ein heconomi at y dyfodol a'r heriau sydd o'n blaenau. Drwy'r adolygiad a gynhelir gan yr Athro Phil Brown, rydyn ni hefyd yn edrych ar yr effaith y mae arloesi digidol yn ei chael ar y gweithlu yng Nghymru.  Mae’r Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg, a gafodd ei gyhoeddi gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yr wythnos hon hefyd yn creu cyfleoedd.

Mae helpu ein gwasanaethau cyhoeddus i baratoi ar gyfer trawsnewid digidol yn rhan allweddol o'n gwaith - i wella gwasanaethau ar gyfer ein dinasyddion, torri costau'n sylweddol a gwella cynhyrchiant.  Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw, felly, fy mod wedi gofyn i Lee Waters AC dros Lanelli arwain ar y gwaith o sefydlu Panel Digidol allanol.

Cynlluniwyd y panel i gefnogi'r gwaith sydd ar y gweill eisoes ac i roi cyngor a her ar wella ein gwasanaethau cyhoeddus drwy wneud defnydd gwell o dechnolegau digidol. Bydd y panel yn helpu i dreialu cyfleoedd a phrosiectau trawsnewid digidol ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus, gan roi cipolwg ar sut y gellid eu datblygu a chynnig argymhellion.

Ar ôl sefydlu'r panel, y cam nesaf fydd datblygu cynllun gwaith llawn. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig i'r panel ystyried sut y gallwn ysgogi'r llwyddiannau ond hefyd ddysgu o'r hyn nad oedd mor llwyddiannus. I ddechrau, rwy'n cynnig bwrw ati gyda darn byr o waith er mwyn cael cipolwg ar ddatblygiadau digidol ar draws Cymru a thu hwnt.  

Byddaf yn gweithio gyda fy nghyfeillion ar draws adrannau'r llywodraeth ac yn canolbwyntio i ddechrau ar gefnogi gwaith Vaughan Gething AC, yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac Alun Davies AC, yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, ar y gwaith sydd yn yr arfaeth ganddynt hwy.

Mae swyddogion yn Swyddfa'r Prif Swyddog Digidol yn helpu i hwyluso mynediad i'r timau perthnasol ar draws Llywodraeth Cymru a byddant yn darparu cymorth gweinyddol i sicrhau bod modd dechrau ar y gwaith hwn yn gyflym.  

Bydd aelodau'r panel a fydd yn cefnogi'r Cadeirydd yn cael eu cyhoeddi gyda hyn a byddant yn cael eu penodi i ddod ag arbenigedd a phrofiad o wasanaethau cyhoeddus a thrawsnewid digidol o bob cwr o Gymru a'r DU.

Bydd y gwaith hwn yn cefnogi Llywodraeth Cymru i asesu ein cynnydd hyd yma a chynllunio ein camau nesaf mewn perthynas â'r agenda heriol hon. Byddaf yn adrodd yn ôl i'r aelodau ar y cynnydd  yn y misoedd sydd i ddod.