Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Rwyf yn ysgrifennu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y cynnydd sydd wedi'i wneud wrth sefydlu Rhwydwaith Trawma Mawr ar gyfer De Cymru, Gorllewin Cymru a De Powys. Bydd aelodau yn gwybod bod gan gleifion yng Ngogledd Cymru a Gogledd Powys fynediad eisoes i'r trefniadau Trawma Mawr fel rhan o Rwydwaith Trawma Mawr Gogledd-orllewin Canolbarth  Lloegr a Gogledd Cymru. Mae trigolion Powys hefyd yn bwydo i mewn i Rwydwaith Trawma Birmingham, Black Country, Henffordd a Chaerwrangon.

Ers imi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn Ebrill 2018 yn rhoi'r newyddion diweddaraf i aelodau am benderfyniad y Bwrdd i sefydlu rhwydwaith trawma mawr ar gyfer De Cymru, Gorllewin Cymru a De Powys, mae gwaith sylweddol wedi'i wneud

Nod y rhwydwaith trawma mawr yw gwella canlyniadau a phrofiad cleifion, a hynny ar draws llwybr cyfan y claf o'r adeg y mae'n cael ei glwyfo nes iddo wella. Bydd y rhwydwaith yn gwella canlyniadau i gleifion trwy achub bywydau ac atal anabledd y gellir ei osgoi, gan ddychwelyd mwy o gleifion i'w teuluoedd, i waith ac i addysg. Bydd y rhwydwaith yn bartneriaeth rhwng sefydliadau sy'n cymryd rhan, gan gydweithio i gyflawni'r nod cyffredin hwn. Y nod yw datblygu rhwydwaith trawma cynhwysol a chydweithredol sydd ymhlith y goreuon yn y byd. Y nod fydd gwella ansawdd, ar sail meddygaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwersi a ddysgir oddi wrth eraill.

Sefydlwyd y rhaglen trawma mawr, yn dilyn adroddiad gan banel o arbenigwyr annibynnol, ymgynghoriad cyhoeddus a sêl bendith llawn pob un o chwe bwrdd iechyd y rhanbarth.

Mae bwrdd rhaglen y rhwydwaith trawma mawr wedi goruchwylio datblygu strwythur Rhwydwaith Trawma De Cymru, a fydd yn cynnwys:

  • Rhwydwaith Cyflawni Gweithredol (ODN), i'w gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a fydd yn darparu swyddogaeth reoli'r rhwydwaith, ac yn cydgysylltu cyflawni gweithredol
  • Bydd offeryn brysbennu cyn ysbyty'n sicrhau bod cleifion trawma mawr yn cael eu cludo'n uniongyrchol gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) neu Wasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys Cymru (EMRTS), neu ddarparwyr argyfwng eraill i'r Uned Trawma Mawr (MTC) neu Uned Drawma (TUs)
  • MTC oedolion a phlant yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Bydd gan yr MTC fynediad at yr holl wasanaethau arbenigol sy'n berthnasol i drawma mawr. Bydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros ofal acíwt cleifion trawma mawr yn y rhanbarth trwy bolisi derbyn awtomatig ac yn rheoli trosglwyddo cleifion i ofal adsefydlu. Bydd yn cydweithio ag ysbytai eraill yn y rhwydwaith ac yn eu cefnogi
  • Uned Drawma oedolion a phlant, gyda gwasanaethau arbenigol, yn Ysbyty Treforys, Abertawe. Bydd yn darparu cymorth arbenigol i'r MTC ac yn darparu Llawdriniaeth Arbenigol i gleifion nad oes ganddynt anafiadau lluosog, ar gyfer llosgiadau, a llawdriniaeth blastig, llawdriniaeth i asgwrn y cefn a llawdriniaeth gardiothorasig.
  • Chwe Uned Drawma i oedolion a phlant yn y lleoliadau canlynol:
    • Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd (ar gyfer ei boblogaeth leol)
    • Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd ac Ysbyty Nevill Hall, y Fenni (nes i Ysbyty Athrofaol y Grange ddechrau gweithredu'n llawn. Bwriedir i hyn ddigwydd yn Ebrill 2021, pan fydd Ysbyty Athrofaol y Grange yn safle un Uned Drawma ddynodedig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)
    • Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful ac Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
    • Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin
  • Bydd yr Unedau Trawma'n gofalu am gleifion sydd wedi'u hanafu a bydd ganddynt systemau ar waith i symud y cleifion sydd wedi'u hanafu waethaf i ysbytai a all reoli eu hanafiadau, sef yr MTC yn y mwyafrif o achosion. Bydd ganddynt rôl wrth dderbyn cleifion yn ôl y mae arnynt angen gofal parhaus yn yr ysbyty a bydd ganddynt system dderbyn addas trwy bolisi derbyn awtomatig.
  • Cyfleusterau trawma gwledig yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth, ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd. Er nad oes unrhyw ddangosyddion ansawdd penodol ar gyfer cyfleuster trawma gwledig, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i sicrhau bod yr ysbytai hyn yn cadw'r gallu i asesu a thrin cleifion trawma mawr, o gofio eu lleoliadau daearyddol cymharol unigryw
  • Ysbyty Argyfwng Lleol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant. Ni fydd yr ysbyty hwn yn derbyn cleifion trawma acíwt fel mater o drefn ond, os bydd hyn yn digwydd, bydd yn sicrhau rheolaeth gychwynnol briodol ac yn trosglwyddo cleifion i'r Ganolfan Trawma Mawr neu'r Uned Drawma agosaf.

I'r mwyafrif helaeth o gleifion sy'n dioddef trawma mawr, bydd eu cyswllt cyntaf â GIG Cymru gyda gwasanaeth ambiwlans neu EMRTS pan gânt ofal cychwynnol yn y lleoliad. Bydd gan y gwasanaeth ambiwlans rôl hanfodol wrth fynd â chleifion adref yn sgil gofal yn y lleoliad gofal eilaidd neu ymlaen ar gyfer eu hadsefydlu arbenigol. Bydd datblygu'r offeryn brysbennu trawma a'r ddesg trawma mawr yn helpu i sicrhau bod cleifion yn mynd yn uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol.

Bydd gan yr uned drawma yn Ysbyty Treforys rôl hefyd wrth ddarparu cymorth gwasanaethau arbenigol i'r rhwydwaith (ee. orthoplasteg, llawdriniaeth ar asgwrn y cefn, adsefydlu lefel 1). Yn ychwanegol bydd yr uned drawma yn ABUHB yn darparu gwasanaeth asgwrn cefn ar gyfer rhai cleifion trawma.

O ganlyniad i agor y MTC, bydd newidiadau yn llif cleifion a fydd yn effeithio ar yr holl sefydliadau darparu ar draws y system iechyd. Er mwyn cynllunio ar gyfer y newidiadau hyn mewn llif a'u rheoli, mae gwaith modelu manwl wedi'i wneud i lywio achos busnes y rhaglen ac i sicrhau bod y rhwydwaith yn cynllunio i fodloni'r cyfluniad newydd hwn.

Mae gwaith manwl wedi'i wneud mewn perthynas â nifer o wasanaethau arbenigol y bydd eu hangen i gefnogi rhoi'r MTC ar waith. Yn enwedig mewn perthynas â llawdriniaeth thorasig, mae'r ddarpariaeth bresennol wedi'i rhannu rhwng Ysbyty Treforys ac Ysbyty Athrofaol Cymru.  Yn dilyn adolygiad gan banel annibynnol ac ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â darparu llawdriniaeth thorasig ar draws y rhanbarth, casglwyd y dylai ysbyty Treforys fod yn un safle ar gyfer llawdriniaeth thorasig i'r Canolbarth a'r De. Cytunwyd ar ateb interim i sicrhau presenoldeb llawfeddygol thorasig digonol yn y MTC ar gyfer achosion argyfwng, gan fod y MTC yn debygol o fod ar waith cyn i lawdriniaeth thorasig gael ei had-drefnu. Caiff y trefniant ei adolygu tra bo trafodaethau'n parhau ar fanylion y model un safle.

Caiff Achos Busnes y Rhaglen ei ystyried yng nghyfarfodydd byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau perthnasol yn ystod mis Tachwedd a byddant yn cael eu hystyried i'w cymeradwyo'n ffurfiol yng nghyfarfodydd arbennig Pwyllgorau Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Argyfwng.

Mae gwaith gweithredu eisoes wedi dechrau mewn byrddau iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans ac rydym yn rhagweld y bydd y gwasanaeth yn dechrau yn y gwanwyn, 2020. Mae'r dyddiad terfynol heb gael ei gadarnhau eto gan y bydd yn dibynnu ar nifer o faterion seilwaith a staffio allweddol.

Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi diweddariad pellach i Aelodau'r Cynulliad yn y Flwyddyn Newydd pan fydd Achos Busnes y rhaglen wedi cael ei ystyried/ei gymeradwyo'n llawn.