Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n falch o roi’r diweddaraf i’r Aelodau ar hynt y gwaith i sefydlu Trysorlys Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi ein pwerau trethu newydd ar waith.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r rhaglen waith bwysig sydd eisoes yn mynd rhagddi i sicrhau bod Cymru’n gwbl barod i gyflwyno’r ddwy dreth ddatganoledig o fis Ebrill 2018. Yn yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi gwneud Datganiadau Ysgrifenedig ar lansio dau ymgynghoriad (ar Dreth Trafodiadau Tir ac ar Dreth Gwarediadau Tirlenwi), ac ar yr ymatebion i’r Papur Gwyn ynghylch 'Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru'.

Er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn, rwyf wedi sefydlu Swyddogaeth Trysorlys newydd yn Adran Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys staff yn gweithio ar gyllid arloesol, dadansoddi a chyngor economaidd, a buddsoddi i arbed, yn ogystal â rhaglen waith i ddatblygu polisi a deddfwriaeth treth newydd, a dadansoddi a rhagolygon cyllidol.

Prif ffocws y rhaglen ar hyn o bryd yw datblygu’r trefniadau deddfwriaethol a gweinyddol ar gyfer y trethi datganoledig newydd a phwerau ariannol ehangach, a sicrhau cyfnod pontio llyfn tuag at fis Ebrill 2018. Mae Bwrdd Rhaglen o uwch-swyddogion o’r gwahanol adrannau yn Llywodraeth Cymru yn goruchwylio’r gwaith hwn, sy’n cynnig y sicrwydd y cyngor a’r cyfarwyddyd angenrheidiol. Mae’r Trysorlys yn ymwneud ag ystod o brosiectau ar hyn o brys, gan gynnwys: deddfwriaeth Casglu a Rheoli Trethi; rhoi Awdurdod Cyllid Cymru ar waith; Treth Trafodiadau Tir; Treth Gwarediadau Tirlenwi; datganoli Ardrethi Annomestig yn llawn; ac arferion cyllidebol yn y dyfodol.

Rwyf i a swyddogion yn cyfathrebu’n rheolaidd gyda sefydliadau allanol, cyrff busnes ac amryw arbenigwyr o’r proffesiynau perthnasol yn fy Ngrŵp Cynghori Trethi, y Fforwm Trethi a’r Grŵp Arbenigwyr.

Wrth ddatblygu’r agenda gymhleth hon, rwy’n ddiolchgar am gymorth CThEM, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a Thrysorlys EM, sy’n rhoi cyngor ar ystod o faterion, gan gynnwys arferion presennol rheoli a chasglu trethi. Mae nifer o’n staff yn gweithio yn nhîm y Trysorlys sydd â phrofiad o waith yn y Trysorlys a CThEM. Rwyf hefyd yn falch o gael cymorth parod gan Lywodraeth yr Alban a Revenue Scotland, sydd wedi rhoi cyngor gwerthfawr ar sail eu profiad o osod trethi datganoledig newydd.

Bydd gwaith a chyfansoddiad y Trysorlys yn parhau i ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf wrth i gamau gwaith gael eu cwblhau ac wrth i gamau newydd ddechrau.

Wrth i ni symud tuag at ddyddiad terfyn mis Ebrill 2018, byddaf yn parhau i roi’r diweddaraf i’r Aelodau am y datblygiadau pwysig yn y rhaglen waith bwysig hon.