Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf roi gwybod i’r Aelodau fy mod i wedi gwneud Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (Cychwyn Rhif 1) 2022 heddiw, y Gorchymyn Cychwyn cyntaf mewn perthynas â Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“Deddf 2022”).

Dyma'r cyntaf o gyfres o Orchmynion Cychwyn rwy'n bwriadu eu gwneud i weithredu Ddeddf 2022, a bwriadaf wneud y Gorchymyn nesaf yn ystod haf 2023 yn unol â'r dyddiad sefydlu arfaethedig ar gyfer y Comisiwn.

Bydd y Gorchymyn Cychwyn cyntaf hwn yn dwyn i rym, ar 15 Rhagfyr 2022, adran 1 o Ddeddf 2022 sy'n darparu ar gyfer creu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ac yn cyflwyno Atodlen 1, sy'n gwneud darpariaeth bellach yn ymwneud â’r Comisiwn megis aelodaeth, staffio, gweithdrefnau, pwyllgorau, ac archwilio.

Y Comisiwn fydd y stiward cenedlaethol cyntaf erioed ar gyfer y sector trydyddol ac ymchwil cyfan a fydd dwyn ynghyd y cyfrifoldeb am oruchwylio addysg uwch a phellach, chweched dosbarth ysgolion, prentisiaethau, ac ymchwil ac arloesi yng Nghymru mewn un lle. Trwy'r diwygiadau y darperir ar eu cyfer yn Neddf 2022 rydym yn ceisio llunio strwythur a system newydd i gefnogi dysgwyr yn well, a darparu’r wybodaeth a'r sgiliau iddynt ar gyfer dysgu, datblygu a llwyddiant gydol oes.

Yn Atodlen 1, daw'r ddarpariaeth angenrheidiol i rym er mwyn galluogi penodi Cadeirydd y Comisiwn, Cadeirydd ei Bwyllgor Ymchwil ac Arloesi (sydd hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd y Comisiwn), ei aelodau cyffredin a'r Prif Swyddog Gweithredol. 

Mae'r broses benodi ar gyfer y rhan fwyaf o’r swyddi hyn eisoes ar y gweill ac mae disgwyl i'r ymgeiswyr a ffefrir ar gyfer swyddi’r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd fynychu eu gwrandawiad cyn penodi gyda Phwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yfory, 15 Rhagfyr.

Daw darpariaethau perthnasol ym mharagraffau 4, 5 a 7 o Atodlen 1 o Ddeddf 2022 i rym hefyd er mwyn gallu dechrau’r broses o benodi aelodau cyswllt y gweithlu ac aelod cyswllt y dysgwyr. Rwy'n rhagweld y byddaf yn ymgynghori ar y rhestr o gyrff a gaiff enwebu ymgeiswyr cymwys ar gyfer y swyddi hyn yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Yn olaf, daw darpariaethau adran 9 o Ddeddf 2022 i rym sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddynodi person i roi cyngor i'r Comisiwn at ddiben ei helpu i gyflawni ei ddyletswydd strategol i hyrwyddo addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy'n rhagweld y byddaf yn gwneud y dynodiad hwn ddiwedd y gwanwyn, cyn i'r Comisiwn gael ei sefydlu.

Byddaf yn gwneud datganiad pellach yn fuan er mwyn cadarnhau penodiad y Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd.