Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch iawn o gadarnhau bod yr Athro a’r Fonesig Julie Lydon wedi’i phenodi’n Gadeirydd y Bwrdd ar gyfer y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a bod yr Athro David Sweeney wedi’i benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi ac yn Dirprwy Gadeirydd y Bwrdd ar gyfer y Comisiwn.

Roedd yn broses benodiadau cyhoeddus helaeth a hynod gystadleuol a gynhaliwyd yn unol â'r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r holl ymgeiswyr am roi o’u hamser gwerthfawr a rhannu eu profiadau fel rhan o'r broses. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu hadroddiad a gymeradwyodd y ddau ymgeisydd yn dilyn eu gwrandawiad cyn penodi ar 15 Rhagfyr 2022.

Daw’r Athro a’r Fonesig Julie Lydon â chyfoeth o brofiad addysg i rôl y Cadeirydd. Mae gan Julie brofiad sylweddol o gyd-destun Cymru ar ôl gweithio yng Nghymru ers 2006 ac arwain un o brifysgolion mwyaf Cymru am 11 mlynedd. Yn ystod ei gyrfa, mae Julie wedi rhyngweithio rheolaidd â Llywodraeth Cymru a Gweinidogion er mwyn sicrhau cefnogaeth i Athrofa Prifysgolion Blaenau'r Cymoedd ac i’r sector prifysgolion.

Mae gan Julie brofiad hefyd o newid a thrawsnewid ar raddfa fawr, a hynny’n arbennig drwy greu Prifysgol De Cymru yn 2013. Daw hefyd â phrofiad anweithredol drwy ei rôl fel Cadeirydd Prifysgolion Cymru, Dirprwy Gadeirydd University Alliance a Dirprwy Gadeirydd Cymdeithas Cyflogwyr Prifysgolion a Cholegau.

Mae'r Athro David Sweeney yn cynnig dealltwriaeth helaeth o'r amgylchedd ymchwil a phrofiad addysg berthnasol trwy ei rôl fel Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Sgiliau yng Nghyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, yn ogystal â phrofiad blaenorol yn y Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Trwy ei waith ymchwil a'i rôl yng Nghyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, mae David wedi rhyngweithio â sector addysg Cymru ac mae'n dod â dealltwriaeth o'r cyd-destun Cymreig. Mae hefyd yn dod â dealltwriaeth a phrofiad cryf o'r rôl y bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn ei chwarae fel cyllidwr, ar ôl gweithio i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr ac fel Cadeirydd Gweithredol Research England am bron i 15 mlynedd.

Rwy'n croesawu Julie a David ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw yn ystod eu tymor o bum mlynedd i wireddu ein gweledigaeth arloesol ac uchelgeisiol ar gyfer sector addysg drydyddol ac ymchwil Cymru.

Y Comisiwn fydd y stiward cenedlaethol cyntaf erioed ar gyfer y sector trydyddol ac ymchwil cyfan a fydd yn dwyn ynghyd y cyfrifoldeb am oruchwylio addysg uwch a phellach, chweched dosbarth ysgolion, prentisiaethau, ac ymchwil ac arloesi yng Nghymru mewn un lle. Trwy'r diwygiadau y darperir ar eu cyfer Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil 2022 rydym yn ceisio llunio strwythur a system newydd i gefnogi dysgwyr yn well, a darparu’r wybodaeth a'r sgiliau iddynt ar gyfer dysgu, datblygu a llwyddiant gydol oes.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau   ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.