Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod rheolaeth a buddion Ystad y Goron yng Nghymru yn cyd-fynd yn llwyr â buddiannau pobl Cymru. 

Ym mis Medi eleni, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog y byddai grŵp yn cael ei greu i ystyried dyfodol datganoli ynni ac Ystad y Goron yng Nghymru yn unol ag argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ac yn adlewyrchu'r cynigion gan bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn galw am ddatganoli Ystad y Goron.

Gallaf gadarnhau bod cyfarfod cyntaf y grŵp hwn wedi cael ei gynnal heddiw, a chytunwyd ar ei gylch gorchwyl a'i gynllun gwaith ar gyfer y misoedd nesaf. Bydd ei aelodau'n cynnwys:

  • Cadeirydd: Nick Butler - Cadeirydd sefydlu'r Sefydliad Polisi yn King's College London a chyn Is-lywydd Grŵp ar gyfer Strategaeth a Datblygu Polisi yn BP
  • Gwenllian Roberts – Cyn-Gyfarwyddwr Cymru ar gyfer Ofwat, Prif Swyddog Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru, bellach yn Gyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Masnachol yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
  • Gwion Lewis CB - Bargyfreithiwr mewn cyfraith gynllunio, amgylcheddol a chyhoeddus.
  • John Howells - Cyn-Gyfarwyddwr Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru.
  • Michelle Davis – Partner yn Jones Day yn cynghori ar ynni glân a datblygu cynaliadwy
  • Mike Palmer – Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Forol o fewn Llywodraeth yr Alban.
  • Tim Peppin – Cyfarwyddwr gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Noder: Mae Mike Palmer yn eistedd ar y grŵp i ddechrau fel Swyddog Llywodraeth yr Alban. Mae disgwyl iddo ymddeol o Lywodraeth yr Alban ddiwedd mis Mawrth 2026, ac o'r pwynt hwnnw bydd yn parhau i fynychu'r grŵp, ond ni fydd bellach yn cynrychioli safbwyntiau polisi Llywodraeth yr Alban.

Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar:

  • Strwythurau llywodraethu ac atebolrwydd Ystad y Goron yng Nghymru, gan gynnwys rôl Comisiynydd Cymru a bwrdd Ystad y Goron.
  • Effaith economaidd a chanlyniadau ariannol gweithgareddau Ystad y Goron yng Nghymru.
  • Goblygiadau ymarferol ac ariannol datganoli, gan gynnwys gofynion capasiti ac addasiadau posibl i grant bloc Cymru.
  • Opsiynau ar gyfer gwella atebolrwydd Ystad y Goron yng Nghymru, gan gynnwys archwilio clustnodi refeniw a gwell systemau adrodd.

Mae'r fenter hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i Gymru a sicrhau bod rheoli ein hadnoddau naturiol yn cefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer cyflawni sero net, adfer natur, twf economaidd, a chyfiawnder cymdeithasol.