Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 18 Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hymateb llawn i’r argymhellion ar ddiwygio ariannol yn adroddiad cyntaf y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk).

Heddiw rwy’n cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i gyhoeddiad Llywodraeth y DU, sy’n adlewyrchu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n gyson o blaid gweithredu adroddiad cyntaf Silk yn llawn.

Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu cytundeb Llywodraeth y DU i:

  • ddatganoli Treth Tir y Doll Stamp;
  • datganoli Treth Tirlenwi;
  • datganoli pwerau benthyca, gan gynnwys mynediad cynnar i fenthyca er mwyn ariannu’r gwaith o wella’r M4 (yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad presennol);
  • galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i alw am refferendwm ar ddatganoli gwahanol bwerau i amrywio trethi ar gyfer treth incwm.

Mae Llywodraeth Cymru yn siomedig gan benderfyniad Llywodraeth y DU:

  • i beidio â datganoli’r Doll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau awyr hir uniongyrchol;
  • i beidio â rhoi cyfle i Gymru amrywio cyfraddau treth incwm yn annibynnol.

Mae dolen i bapur sefyllfa Llywodraeth Cymru ynghlwm.

Mae adroddiad cyntaf Comisiwn Silk, sef ‘Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau ariannol i gryfhau Cymru’ ar gael ar wefan y Comisiwn yn:

http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy/

Mae ymateb llawn Llywodraeth y DU i adroddiad cyntaf Silk ‘Empowerment and responsibility: devolving financial powers to Wales' ar gael ar wefan Llywodraeth y DU yn:
https://www.gov.uk/government/publications/empowerment-and-responsibility-devolving-financial-powers-to-wales